Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rho imi dy lawenydd, O fy Nuw, Yn ysbrydoliaeth ac yn nerth i fyw; Nid mwyniant moment na phleserau gau, Ond profiad o'r gorfoledd sy'n parhau. Llawenydd mawr a ddaeth i'r byd yng Nghrist, Y Newydd Da goruwch pob newydd trist; Dy annwyl Fab a ddaeth i'n plith yn gnawd, Fy mraint yw llawenhau ei ddod yn Frawd. Llawenydd mwy: gorchfygodd fyd a bedd, Ei fuddugoliaeth fawr sy'n rhoddi hedd; Yn holl brofiadau'r daith caf esmwythâd, Yng nghwmni Crist sy'n fyw mae byw'n fwynhad. Dy gymorth rho im roi fy hun i Ti, A gwefr d'efengyl yn fy llenwi i; Drwy rym dy gariad drud a roddi'n rhad, Gwna fi yn Gristion llawen, O Dduw Dad. [Dyma a ddywed Mr Davies am amgylchiadau llunio'r emyn hwn: 'Gwneuthum yr emyn ar ddechrau 2002. Bu'r meddwl yn cronni ynof ers tro. Rhyw deimlo yr oeddwn fod angen inni fel Cristnogion fynegi yn fwy amlwg ein profiad o lawenydd yr efengyl, a hynny'n bersonol, yn wyneb holl brofiadau eraill bywyd, er i rai fod yn anodd.'] Llongyfarchiadau i'r Parch. Tudor Davies ar gyhoeddi ei gofiant i D. Tecwyn Evans (1876-1957), un o'r gwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol a gododd Wesleaeth Gymraeg. Ei deitl yw Cofìo Tecwyn (Gwasg Pantycelyn, 2002). Mae'n gyfrol sylweddol 0 384 o dudalennau, ac yn cynnwys pennod arno fel cyfieithydd ac emynydd. Gol. LLAWENYDD (Tôn: Navarre) Tudor Davies