Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad: Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans Y mae un o gyfrolau emynau a thonau mwyaf arloesol y Cymry, Caneuon Ffydd, wedi ennyn sylw'r Cristion a'r anghredadun. Y mae wedi dod i frig siartiau'r llyfrwerthwyr, a thalwyd sylw iddi ar raglenni newyddion hyd yn oed y mae gen i gof i HTV o leiaf dalu sylw i'r dyfeisiau sydd wedi'u creu er mwyn cadw Caneuon Ffydd ar y piano. Ar y naill law, efallai nad yw'n syndod deall fod cymaint o frwdfrydedd yn ein plith, oherwydd y mae holl aelodau pum enwad dan ystyriaeth. Eto i gyd, y mae'r brwdfrydedd hwn i'w weld mewn cyfnod o dlodi ysbrydol. Rhywfodd, y mae gweld y cynulleidfaoedd bregus yn crebachu fwyfwy yn ein haddoldai traddodiadol ar y Sul, a gweld prawf fod Caneuon Ffydd yn gwerthu'n rhyfeddol o dda, yn baradocsaidd. O ganlyniad, efallai nad peth ffôl fyddai holi beth sy'n gyfrifol am hyn a yw Cymru yn wir yn profi adfywiad ym maes canu cynulleidfaol, neu tybed a ydym ni fel cenedl yn rhoi gormod o bwys ar gasglu llyfrau a chreiriau (a gorau i gyd os ydyn nhw'n ymwneud â chrefydd) a'u dodi ar y seld? Nid llwyddiant o ran gwerthiant yn unig a berthyn i Caneuon Ffydd chwaith. Er y gwatwar am faintioli a phwysau'r gyfrol, fe wyr y cyfarwydd ei bod hi'n gyfrol swmpus a thoreithiog. Ynddi canfyddir hufen emynau a thonau'r Cymry, ac yn ddi-os y mae ynddi ddetholiad o'n ffefrynnau ni i gyd. Mae'r rheini gan amlaf yn emynau a thonau cymanfa. Ond mae'n siwr gen i mai cynulleidfaoedd cymharol fychan sydd fwyaf nodweddiadol yng Nghymru heddiw, ac felly roedd hi'n ddyletswydd ar bwyllgor Caneuon Ffydd i ddiwallu eu hanghenion. Ac o brofiad, y mae'r llyfr hwn yn llwyddo i wneud hynny. Nodwedd sy'n ymgais amlwg i apelio at bob math o gynulleidfa yw gweld emynau'r plant a thonau'r ifainc rhai hefyd a ddefnyddir gan gynulleidfaoedd gwan yn gymysg â'r cynnyrch 'cymanfaol'. Emyn sy'n cael ei ddef- nyddio'n helaeth yn ein capel ni ym Mwlch-llan yw ’O Dduw, ein Tad' (788) ar y don 'Bronwen'. Yn yr Atodiad, mae'r emyn hwn ymhlith emynau'r plant, ond yn Caneuon Ffydd fe'i gosodwyd rhwng dau o gewri'r genre Rho im yr hedd' ('Rhys') a 'Gwawr wedi hirnos' ('Theodora'). Tric seicolegol yw hwn, mae'n siwr, ar gyfer rhai fel