Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mod i'n rhy ifanc i werthfawrogi peth mor sensitif yw enwadaeth, ond i mi, ein profiad ni fel unigolion, ein ffydd yn Nuw, a'n hadnabyddiaeth o Iesu Grist sydd bwysicaf rhywbeth y medrwn ni Gristnogion i gyd ei brofi, waeth i ba enwad bynnag y perthynwn. Dyma ddymuniad a fynegir yn un o emynau Caneuon Ffydd (614), a dyma fy nymuniad innau: a'r gân am byth un Arglwydd, un Eglwys ac un ffydd. [Llongyfarchiadau i Delyth Morgans ar gael ei phenodi'n ymchwilydd ar gyfer cyfrol gydymaith arfaethedig Caneuon Ffydd, cyfrol a fydd yn fwynglawdd o wybodaeth am yr emynau a'r emyn-donau yn Caneuon Ffydd, eu hawduron a'u cyfansoddwyr. Gol.] Un tro, mi ges i fy anfon fel sbei gan y criw i wneud arolwg o be oedd sefyllfa crefydd heddiw Mi ddiweddais yr Adroddiad yn cyfaddef i mi gael fy nghyffwrdd yn wirioneddol gan yr emynau a ganwyd ym mhob capel. Wrth i mi wrando ar y geiriau, sylweddolais eu bod yn canu am bethau anhygoel sôn am Iesu Grist fel rhosyn a'i alw yn 'ffrind pechadur', ro'n i'n lecio hynny. Canent am eneidiau'n hiraethu, dafnau chwys yn diferu, gwaed yn golchi, pechaduriaid mewn rhwydau, cefnfor tragwyddoldeb, anturio trwy ddwr a thân, mentro drwy afonydd a dringo i gopaon mynyddoedd, moroedd o gariad, aberth nad oedd modd ei fesur, dinas gadarn, craig yr oesoedd, tymhestloedd ffyrnig, mellt yn fflachio a sugno eneidiau'n lân. Y ddelwedd fwyaf cofiadwy oedd 'euogrwydd fel mynyddoedd byd', cyffyrddodd hynny fi roedd y cyfan yn anghredadwy, a phob emyn efo mwy o angerdd ac o nwyd na'r un gân gyfoes a glywais. Yr hyn oedd yn fwy anghredadwy fyth oedd fod y geiriau cryfion hyn yn cael eu canu'n danbaid gan bobl y capel, yna roeddent yn cau y llyfr hymns a mynd adref fel tasa dim oll wedi digwydd! Fel tasa fo'n gwbl normal i floeddio canu am y fath bethau. Roedd hyn tu hwnt i mi. Taswn i'n credu hanner yr hyn roedden nhw yn canu amdano, byddwn yn cyhoeddi'r ffaith o ben toeau'r tai, byddwn yn rhedeg a neidio 0 gwmpas y lle, byddwn yn boddi mewn môr o ddagrau. Angharad Tomos yn ei nofel, Wele'n Gwawrio (1997), tt.131-3