Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coffâd: Mr Huw Williams, MA (1922-2002) gan Cledwyn Jones Bu farw pnawn Sul, 28 Gorffennaf 2002, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel y Methodistiaid ym Mryn-du, Ynys Môn, pentref ei fagwraeth, a lle treuliodd ei flynyddoedd cynnar cyn ymadael i'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn y cartref hapus hwnnw y daeth Huw dan ddylanwad ei fam, gwraig ddeallus a diwylliedig a ymddiddorai yn y 'pethe', yn arbennig yr emynau traddodiadol a oedd yn rhan mor annatod o'i bywyd crefyddol. Yr oedd hi hefyd yn berchen llais godidog, a sicrhaodd bod ei dau fab,William a Huw, yn dysgu'r tonau a'r caneuon gwerin hynny a oedd yn rhan o'i hetifeddiaeth. Dro ar ôl tro yn ei gartref ym Mangor, clywais Huw yn cyfeirio at ddylanwad ei fam arno, a'i edmygedd ohoni. Hi, yn ddi-os, a oedd yn gyfrifol am blannu'r had a dyfodd ar ei ganfed yn ei mab. Nid rhyfedd felly mai emynau a'u hawduron a'r canu gwerin fuasai ei brif ddiddordeb ar hyd ei oes. Treuliodd flynyddoedd yn ymchwilio cefndir llawer o'n hemynau traddodiadol, yn arbennig y rhai hynny lle'r oedd ansicrwydd am awduraeth y geiriau neu gyfansoddwr y dôn a'u tarddiad. Y gwaith ymchwil trylwyr hwn oedd ei brif gyfraniad i ni fel cenedl. Ymddangosodd teyrngedau iddo eisoes yn Y Goleuad, Yr Herald Cymraeg a'r Daily Post ac fe gyfeirir ato ym mhob un ohonynt fel arbenigwr yn y ddau faes. Y mae ffrwyth ei waith ymchwil trylwyr a chydwybodol i'w weld yn ei gyhoeddiadau niferus, yn agos i dri chant (yn ôl Dr Maredudd ap Huw, ei fab), gan gynnwys erthyglau, pamffledi, darlithoedd, llyfrau ac yn y blaen. Yr wyf yn ddiolchgar i Maredudd am anfon ataf gasgliad o'r cyhoeddiadau. Ym Mehefin 1953 yn Yr Athro y dechreuodd ysgrifennu ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru, ac yn Y Goleuad yn 1958 ar emyn-donau a'u hawduron. Dyma restr o'i brif gyhoeddiadau ym myd yr emyn: Tonau a'u Hawduron (Caernarfon: Llyfrfa'r M.C., 1967). Rhagor am Donau a'u Hawduron (Caernarfon: Llyfrfa'r M.C., 1969). Canu 'r Bobol (Dinbych: Gwasg Gee, 1978).