Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn llwyr ar ei wybodaeth drylwyr. Mynegai farn 'fel un ag awdurdod ganddo'. Gydag ymadawiad Huw, collasom gymeriad unigryw a gyfrannodd yn ddiflino i faes caniadaeth y cysegr a'r canu gwerin. Cyd-ymdeimlwn yn ddiffuant iawn ag Olwen, a fu'n gymaint cefn iddo yn ei waith, ac yn arbennig ei gofal diflino yn ei ddyddiau olaf. Yn yr un modd Maredudd ei fab, yr oedd ganddo gymaint meddwl ohono, ac yr ymfalchïai yn ei lwyddiant addysgol. Boed iddo orffwys mewn hedd. Coffâd: Y Parchedig Brifardd Dafydd Owen, MA, BD (1919-2002) gan John Gruffydd Jones Roedd yn brifardd ac yn fardd gwlad, yn awdur ac yn athro, yn golofnydd ac yn gyfieithydd, yn feirniad ac yn faledwr, yn efengylydd ac yn emynydd, ac fe fentrodd i fyd y ddrama yn ei dro hefyd; ond yn ei eiriau ef ei hun, yn ei hunangofiant Yn Palu Wrtho'i Hunan (Gwasg Dwyfor, 1993), hawliai mai bardd Cristionogol a gredai iddo dderbyn cenhadaeth ddeublyg ydoedd, sef pregethu a llenydda ar gefndir cyfoes, ac yn sicr ddigon ni bu erioed frwydr rhwng crefydd a chelfyddyd yn ei fywyd. Roedd cred a chân yn deillio o'r un ffynhonnell grefyddol a'r ddeupeth yn eilio ei gilydd beunydd. Mawrhau Duw a chanu yn llawen a wnaeth bob tro. Ganed Dafydd Owen yn y Rhiw, Bylchau, ym Mro Hiraethog, yn un o wyth o blant, ac eto yn ôl ei gyfaddefiad ei hun ni hoffai fyw ym mherfeddion gwlad am mai'r natur ddynol oedd yn ddiddorol iddo; ond mae ei atgofion am y dyddiau gwyrdd cynnar yn llawn cariad at fro a theulu, ac fe dreiddiodd y cariad hwnnw i' w hoffter at 'fywyd tawel a phwyllog ac amser ynddo i anadlu'. Prin y gwelais ef erioed ar frys mawr i gyrraedd na chwaith i adael unman. Fe'i haddysgwyd yng