Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL BETH YW RHYFEL ? NID yw'r cwestiwn hwn mor ddiniwed â'i olwg. Y mae i'r gair rhyfel ystyr gyfreithiol bendant i lygad cyfraith gydwladol, nid oes ryfel oni bo'r pleidiau sy'n ymladd yn ben- wladwriaethau (sovereign states yw'r term yn Saesneg). Ac ni chydnabyddir bod llwythau brodorol yn benwladwriaethau. Ceir dau ganlyniad diddorol i hyn oll. Yn gyntaf, nid yw rheolau rhyfel yn rheoli ymgyrch imperialaidd yn erbyn llwyth anwar chwarae i genhedloedd gwareiddiedig yw rhyfel, ac anffawd Mussolini oedd na allai ef honni mai llwyth anwar oedd yr Ethiopiaid, am fod Ethiopia'n aelod o Gynghrair y Cenhedloedd-Yf oedd afreoleidd-dra'r Eidal felly'n drosedd yn erbyn cyfraith gydwladol. Yn ail, nid yw rheolau rhyfel gwâr yn rheoli gwrthryfel, 0 leiaf nes bod y gwrthryfelwyr wedi meddiannu digon o dir a chodi digon o awdurdod arno i ddod yn wladwriaeth sefydlog. A bod rhyfel wedi cychwyn, y mae'n ddyletswydd ar wledydd ereill ymgadw rhag rhoi cymorth milwrol i'r naill ochr neu'r llall. Derbynnir y ddeddf gydwladol hon yn gyffredinol ac ym mhob gwlad gorfodir hi trwy gyfraith gwlad. Ym Mhrydain Fawr, mae'r Foreign Enlistment Act yn gwahardd i Brydeiniwr ymuno â byddin sy'n milwrio yn erbyn Llywodraeth sy'n hedd- ychol â Phrydain Fawr. Sylwer nad rhaid bod y Llywodraeth heddychol honno yn Uywodraeth a gydnabuwyd eisoes gan Lywodraeth Prydain nid rhaid iddi ond fod yn Uywodraeth sefydlog mewn ffaith. Achos uniongyrchol ein diddordeb yn y rheolau hyn yw'r gwrthryfel yn Sbaen, wrth gwrs, a'r modd rhyfedd y cyfaddasodd Llywodraeth Prydain y rheolau hyn ato. Oblegid cyn bod cytundebau dim ymyrryd wedi dod i rym o gwbl, cyhoedd- odd y Llywodraeth na chaniateid i Brydeiniwr ymuno â byddin- oedd Llywodraeth Sbaen er nad oedd y byddinoedd hynny'n