Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prydain dros ei hymerodraeth, a thros y llwybr i'r India'n arbennig, ac er bod yn amlwg y bydd y llwybr hwnnw mewn perygl os llwydda Franco, ni fyn y Llywodraeth ddangos yn glir ei gwrthwynebiad iddo. Mewn un modd yn unig y gellir cael rhyw fath o drefn ar weithredoedd y Llywodraeth a chofio mai Llywodraeth fwrdais a chyfalafol yw hi ydyw hwnnw. Gwêl y Llywodraeth y bydd perygl aruthrol i'w dosbarth hi yn y rhyfel nesaf er gosod ffatri arfau ym Mhen-y-bont i warchod Cwm Rhondda, ni rwystrir gwrthryfel Comunyddol, ac ni ellir disgwyl byth dwyllo holl bleidiau'r Chwith â baner eto. Felly, rhaid osgoi rhyfel. Ond gan y golygai chwyldro-hyd yn oed chwyldro economaidd-yr un diwedd i'r dosbarth Uywodraethu a'i allu, rhaid osgoi chwyldro hefyd. Yr unig obaith am hynny yw osgoi gwneud dim ac unig ragoriaeth y Llywodraeth yw ei medr i osgoi gwneud dim. A llwydda bron cystal â hynny i dawelu'r beirniaid byw oddi allan, trwy gynlluniau a dyfeisiau a chynadleddau. Ond nid yw ei gwleidyddiaeth ar y gorau ond yn osgoi'r anawsterau dros dro ac ni all felly fodloni ond yr hen. INDIA, SBAEN A CHYMRU Y mae'r teimlad gwrth-Imperialaidd ymhlith Cenedl- aetholwyr Cymru wedi peri iddynt gymryd diddordeb weithiau yn helyntion yr India. Ond y mae dau fath o Genedl- aetholwyr yng Nghymru heddiw, y rhai sy'n gweled ffeithiau'r rhyfel dosbarth a'r rhai sy'n cau eu llygaid i'r ffeithiau hyn, neu mewn geiriau eraill, y mae gan y Blaid ei "hadain dde a'i hadain chwith." Dylai pobl y chwith lawenhau wrth glywed am lwyddiant annisgwyledig Cenedlaetholwyr India yn yr etholiad diweddar, canys y maent hwy yn ddiau yn perthyn i'r chwith. Gwelant y ffeithiau.