Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMSON CIGYDD YR AIL DYMA fi, Adda Canibal a'm gwraig a'm plant, bedwar ohon- ynt, heb damaid ar gyfer yfory. Paham y creodd Duw ni i'n trengi ? Oni wrendy ar lef egwan yr un bach yma y sydd yn dihoeni, a'i fam yn rhy ddi-nerth i'w gryfhau â'i Uaeth ? Rhaid yw i Greawdwr popeth, os yw yn bod o gwbl, ofalu am fwyd i'w greaduriaid. Rhaid, o rhaid. Ust Beth yw'r swn rhyfedd a glywaf o'r awyr ? Beth yw'r aderyn anferth acw a welaf yn disgyn ? Och dyma Dduw yn dod lawr i'm cosbi am fy nghabledd. O maddau "Na, bwyd ydyw," ebe'r crwt Seth. Gyda hyn, gwelai lafn braf, gordew, tebyg i gigydd, yn ymrolio allan o'r cerbyd awyr. Pan welodd y duon yn agosáu ato, cododd gan feddwl dianc. Ond dyma Seth yn gweiddi-" Daliwch e' 'nhad. Bwyd i ni ydyw oddi wrth Dduw. Gwelwch, y mae wedi anfon coed hefyd i'w rostio." Ni fu Adda fawr o dro cyn gollwng ei waed. O dyma gig gwyn neis (ebe Enos). Onid yw'n dew ? Diolch i Dduw am anfon bwyd i ni." Caed digon o wledd i bara am gryn amser. Halltodd Adda beth ohono hefyd, yn ei ffordd ei hun. Diolchai bob bore am ei fwyd. Ymhen tipyn wedi gwledda felly ar gig anfonedig Duw, aeth Adda Canibal allan am dro i'r jwngl, ac ymhellach nag arfer. Gyda hynny clywodd ruad ofnadwy bron yn ei glust, yn ei atgoffa o'r swn a glywsai o'r awyr gynt. A beth oedd yno ond llewes a'i dau genau bach gyda hi, bron â threngi yn chwilio am fwyd. Cawsant eu digon. Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw." (Salm civ. 21.) D.J.E.