Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHYBUDD A fuoch chwi 'rioed yn morio ? Wel, do, mewn padell ffrio, Fe chwythodd y gwynt ni i'r Isle of Man, A dyna Ue buo' ni'n crio.' PE bae rhywun yn gofyn i mi enwi y chwe darn o farddon- iaeth sydd hoffaf gennyf, byddai'r pennill hwn yn un ohonynt. A dyna ael rhyw feirniad llenyddol yn codi dwy fodfedd o leiaf Os wyf wedi dal allan unrhyw ddarllenydd felly, yr wyf am wneud iddo deimlo'n hollol anghyffyrddus ar unwaith, drwy ei atgoffa o un o ddywediadau'r Almaen- Y mae i ddyn na all wenu gydwybod ddrwg." Dyna gnewyllyn fy nghŵyn yu erbyn y Cymry. Rhyw- fodd neu'i gilydd yr ym wedi anghofio sut i chwerthin. Mae wedi bod yn ffasiwn ers blynyddoedd bellach i feio'r diwyg- iad Methodistaidd am lawer o bethau, ac yn wir, efallai fod gan y digwyddiad mawr hwnnw rywbeth i'w wneud â'r broblem dan sylw. Pa fodd bynnag, y canlyniad-nid yr achos — sy*n bwysig, a pha un ai'r bywyd crefyddol, ai'r bywyd darbodol, ai'r bywyd prydferth sydd yn gyfrifol, y mae'r ffaith yn aros bod Cymry'r oes olau hon-o mor ddiffifol mor hirwyneb Wrth gwrs, mae'n wir ein bod yn byw mewn amser blin, rhwng y dirwasgiad, yr ysfa chware milwyr ar y cyfandir, a'r wythnosau ar wythnosau o law, ac y mae'n wir na all Ued-wên, na gwên, na chwerthiniad ein gwared o'r blinderau hyn; ond credaf mai help ac nid rhwystr fyddai parodrwydd i chwerthin yn iach ar adegau dros ein ffolineb, yn ogystal â thros ychydig o ysmaldod, Uenyddol neu leisiol. Y mae i'r Sais ei gylchgrawn Punch, y mae i'r Americanwr ei New Yorker, ond beth am y Cymry ? Ni wn a ydym yn fodlon ar fyw ar gynhyrchion y Sais yn y mater hwn, ond y mae'n