Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRO MEBYD D. J. WILLIAMS RHYDYCYMERAU. Priodasau nentydd a'r afon fawr yw y Cymerau. Dywed eraill mai Rhyd-cwm-y-merau yw. Pa wahaniaeth tra cedwir y Merau ? Mae yr ardal yn nhri phlwyf, Llansawel, Llanybydder, a Phencarreg. Tir amaethyddol a bugeiliol mynydd a chors, hefyd tir gweddol yn y fro ac ar wasgar. Os bu plant tŷ yn mynd i Ysgol y pentref, mae y tŷ hynny yn perthyn i Ryd- cymerau. Tair milltir a hanner i Lansawel, pump i Lany- bydder (dwy a hanner i sanitoriwm Alltymynydd) a deg i Lan- bedr, er mai saith sydd dros Fynydd Pencarreg. Ysgoldy, melin, llythyrdy, dwy siop, teiliwr, ond y dafarn ac efail y gof wedi cau. Capel Methodist, lle y bu Dafi Dafis a sawl Dafi arall. Rhyw ddeuddeg tŷ sydd yn y pentref (Troedyrhiw a Phenybont yn suburbs Heol Llanybydder) ac mae lled cae neu ardd rhwng bob tŷ ond dau. Rhanna'r afon blwyfi Llanybydder a Llansawel, a'r Rhyd wedi ei phontio. Ryw filltir i lawr ar heol Llansawel ceir Abernant, cartref D. J., ac ar eich taith yno, ewch heibio i Fwlch-cae'r-ŵyn (onid Bwlch-cae'r-wyn oedd ffugenw D. J. pan enillodd ar y stori fer yng Nghaernarfon ?) pen heol a arweinia i ffermdy Esgerceir, trigfan hil awdur Plasau'r Brenin. Clywir cri'r cornicyll, y chwibanogl, a'r afr wanwyn uwch- ben Cors y Bryniau, Corsydd y Siop a Llethr Bledrig. Mae mwyafrif y trigolion yn perthyn i'r Hen Wynebau a gwyr y Tir Glas "-er y bu D. J. dros y ffin ar ôl ambell un o'r cymeriadau. Mae yno lawer o ddynion dŵad hefyd. Pan oeddwn gartref ddiwethaf, daeth un o Saeson Fforestydd y Llywodraeth i lawr, yn newynnog am ffag, wedi bod yn ysmygu te am ddau ddiwrnod" DYCHANLUNIAU CYMRU II. D. J. Williams. gan R. Ll. Huws.