Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Defi John Abernant Teyrnged i'w fawredd. Dim gwŷr mawr yn Rhydcymerau? Beth am yr heddgri? Yn 'r Efailfach mae ceüiog, Ofnadwy lanc yw ef, Mae'n gwneud rhyw waith ofnadwy Yng ngerddi tlws y dref." Nawr am y cytgan Pen hyn, pen draw i'r ardd (ddwywaith), Mae'r ceiliog bach yn canu'n iach Pen hyn, pen draw i'r ardd." Nid oes gofgolofh yn y cylch-mor beUed EL Y DROL. Y GWCW "HAUL y gwanwyn sy'n waeth na gwenwyn," ebe Margiad Pari Tŷ Pen, gan symud y potyn ffiwsia o'r ffenestr a wynebai haul llachar bore diwedd Ebrill. Gosododd y potyn yn ofalus ar fwrdd y gegin a chydiodd yng nghorden y bleind. Am eiliaid, safodd i syn-fyfyrio, yna cododd ar flaenau ei thraed i syllu'n hiraethus dros y cyrtans bach. O'i blaen gwelai gae egin ceirch ar dir Pen y Bryn, a thu draw i'r cae, glawdd drain gwynion Uawn blodau yn dringo hyd ffiniau'r fîf idd nes ymgoUi yn eithin melyn y mynydd. Pe cawn i fynd i Ben y Bryn a chlywed y gog, byddai siawns i mi fyw am flwyddyn eto," sibrydodd mewn hunan-ymddiddan. Fel 'na bydda' mam yn deyd." Gollyngodd gord y bleind o'i llaw. Er distawed y sibrwd, fe'i clywed gan Gwen, y ferch, a fu'n gorwedd yn y gwely a gyweiriwyd iddi yng nghanol mis Mawrth pan darawyd hi gan y niwmonia. Agorodd Gwen ddau lygad