Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iawn fel mul o styfhig. A phawb mor giên wrthyf i Wnewch chi fadda' i mi, mam ? Mi faswn yn leicio cael y gôt 'na cyn gynted ag sy bosib'. A mami, ddowch chi â fy mag i lawr o'r Uofft. Mae 'na dipyn o bowdwr yn sbâr. Ond cyn i chi fynd fyny, pasiwch y te bîff i mi." Do, cafodd Dafydd ei wy creyr gan y meddyg hefyd flas-enw gan ei gyfoedion. Ond Gwen Tŷ Pen ydyw'r unig un yn yr ardal na wyr pam y'i gelwir yn Ddafydd gwcw. W. G. WILLIAMS. DYDDIADUR CYMRO AR dudalen arall gwelir erthygl gan Cyril P. Cule. Athro mewn ieithoedd ydyw Mr. Cule a chanddo gryn brofiad o fywyd gwledydd y cyfandir. Credaf mai ef yw yr unig aelod o'r Blaid Genedlaethol a welodd rywbeth o'r rhyfel yn Sbaen. Cred rhai ei fod yn Gomiwnydd ond nid ydyw; er hynny, y mae'n wrthffasgydd brwd a phwy nad yw sy'n medru meddwl yn unionsyth? Mewn llythyr ataf dywedodd Wrth gwrs, mae'n naturiol fy mod i yn teimlo'n gryf iawn ar y cwestiynau hyn am fy mod wedi cael bwledi'r Ffasgiaid o gwmpas fy nghlustiau Y mae un cwestiwn ynglŷn â'r rhyfel hwn y dylai pob aelod o'r Blaid Genedlaethol fod yn gytûn arno, a hwnnw ydyw yr ymosodiad brwnt a wneir ar y Basgiaid. Gwlad fechan ydyw Euzkadi a gwlad sy'n hynod am ei chrefyddolder. Gwlad Gatholig hefyd a dyna sy'n hynod, fod y wlad hon sy'n hollol gatholig yn ei hanfod yn ymuno â Llywodraeth Madrid i ymladd y cristion Franco. Beth yw'r esboniad ? Carwn roi ateb drwy ddyfynnu o bamffled a ddaeth i'm llaw yn ddiweddar.