Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFFA GWYROSYDD Ni welwn un anwylach-na Daniel YmhUth dyn on mwyach, Ei "galon lân" wna lu'n lanach O hunodd Bardd y Mynydd Bach. ADOLYGIADAU Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru. Drama Hanes gan D. W. Morgan. (Cyfieithiad gan W. Ambrose Bebb). Gwasg Aberystwyth. Tdd. 76, 2s. 6d. Eleri. Rhamant gan D. W. Morgan. Gwasg Gymraeg Foyle. Tdd. 186, 3s. 6d. Nid amhriodol ydyw adolygu y ddau lyfr hyn, drama a nofel, gyda'i gilydd gan fod cysylltiad agos rhyngddynt. Yn gyntaf, gwaith yr un gŵr ydynt a delia'r ddau waith â'r un cyfnod yn hanes Cymru, sef cyfnod brwydr Llywelyn Ein Llyw Olaf yn erbyn y Saeson. Defnydd drama sydd yn y nofel, ac un o ddigwyddiadau'r nofel ydyw sylfaen y ddrama. Rhaid dweud ar unwaith fod y ddrama yn un o'r rhai gorau a ymddangosodd yn Gymraeg erioed, y fwyaf ond odid. Bu'r awdur yn ffodus iawn yn ei gyfieithydd. Y mae graen ar y gwaith ac ni allwn lai nag awgrymu mai da fyddai iddo gael cyfieithydd at unrhyw waith a gyhoedda yn y dyfodol. Egyr y ddrama gyda golygfa yn y Tŵr Gwyn yn Llundain, lIe y mae teulu Gwynedd 011 yn garcharorion. Y mae'r ddau Dywysog, Owain a Dafydd, wrthi yn chware gwyddbwyll tra y mae Llywelyn eu brawd yn breudd- wydio breuddwydion am dynged ei genedl. Dadlennir eu cymeriadau ar unwaith, ar amrantiad megis, gan law gelfydd a sicr y dramodydd. Wedi marwolaeth y tad wrth geisio dianc o'r tWr, dilynwn hwynt yn ôl i Gymru at gynllwynion a brad y Saeson, a dichell y brawd Dafydd yn erbyn ei frawd Llywelyn.