Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

drwyddo eto, yna edrych ar yr annibendod ar y llawr.) Arogl- darth aberth ydyw, Jonas. LLEN. Ymataliodd yr awdur yn ddoeth rhag gollwng y Uen yn rhy gynnar a thrwy hynny y mae'r olygfa yn ennill mewn grym a nerth, ac y mae, hefyd, yn fwy "satisfying" o safbwynt celfyddyd. Llwydda i gyfleu'r cyfnod cyffrous hwn mewn modd cofiadwy ac y mae'r cymeriadau yn rhai byw, yn gig a gwaed. Yn awr am y nofel. Yr un yw'r cefndir yma eto, ond bod yr elfen ramantus yn cael y Ue blaenaf. Rhywfodd teimlaf fod yr awdur yn fwy o realydd yn y ddrama nag ydyw yn y nofel ac am hynny teimlaf, hefyd, fod y ddrama yn agosach i'w lle fel portread o ddigwyddiadau cyffrous y cyfnod. Er hynny y mae'n nofel ddarllenadwy dros ben a dylai fod mynd mawr arni. Nid yw'r iaith mor lân ac urddasol â'r ddrama ac am hynny collir y rhin hwnnw mewn geiriau sydd yn abl i greu awyrgylch arbennig y cyfnod. Hanes Huw, mynach ieuanc, a aberthodd ei gariad at Gwen, ei ffrind chware er dyddiau mebyd, ar allorau ei Eglwys, a gawn yn y stori. Ni ddymuna Gwen fod yn rhwystr ar ei ffordd a gedy iddo fynd, heb un ymgais i'w atal, ond â dagrau lond ei chalon drom. A Huw i grwydro'r ddaear, ond ni lwydda i ddiffodd y fîlam gariad sydd yn Uosgi yn ei galon ar waethaf pob croes a phob ympryd. Oherwydd uchelgais Prior Adda, Beddgelert, arweinir ef yn ôl i Gymru ar gais Pen yr Eglwys i'w "glanhau" oddi wrth ei hoffeiriaid priod. Un o'r offeiriaid hynny ydyw tad Gwen, a gwêl hithau y gallai hi fod yn fagl ar ei ffordd ac yn dramgwydd iddo. Rhag bod felly, cüia i gwfaint yng Nghaer i baratoi ei derbyn yn fynaches. Tra'n aros ym mhriordy Beddgelert daw Huw ar draws hen wr sydd yn stafell y penydiau yno. Un o'r offeiriaid priod a erlidiwyd gan yr Eglwys ydyw Dafydd ac yn dal i hiraethu am ei wraig a'i blentyn pen felyn a adawodd ar ôl pan ddaeth i'r priordy. Am iddo geisio dianc y'i cadwyd yn ystafell y penydiau. Pwy yw Dafydd a phwy