Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd ei blentyn ydyw un o ddirgeledigaethau'r stori ac nid teg fyddai dadlennu'r diwedd, mwy na dywedyd ei bod fel diwedd pob rhamant Y mae un cymeriad sydd a chryn ddirgelwch yn perthyn iddi, a honno yw Eleri, rhyw grwydrad blinedig nad yw ei chysylltiad â'r stori yn amlwg tan y diwedd. Y mae'r plot wedi'i wau yn gywrain iawn ac mewn rhai mannau cyfyd i dir uchel, megis yn y penodau sydd yn disgrifio ymweliad Archesgob Caergaint â Llywelyn i gyhoeddi ultimatwm y Brenin Edward, ac wedi ei ddirmygu gan Lywelyn yn cyhoeddi ys- gymundod arno. Hwyrach mai'r elfen ddramatig yn hon sydd i gyfrif bod y rhan hon ar lefel uwch na gweddill y stori. Er hynny cefais flas mawr ar y llyfr drwyddo gan fod yr awdur yn llwyddo i gadw dadleniad gwir hanes ei gymeriadau tan y diwedd. Yn raddol bach y down i sylweddoli cysylltiad y cymeriadau â'i gilydd ac ychwanega hyn yn fawr at ddiddordeb y stori. Gobeithiwn weld rhagor o waith Mr. Morgan yn fuan. Hyd yn hyn ni throdd ein nofelwyr at ein hen hanes fel ffynhonnell eu nofelau, ond prawf Drama a Nofel Mr. Morgan y stôr o ddeunydd sydd yno i'r neb a fyn drafferthu ei chwilio. A. ap 1. What is Happening in Wales ? gan W. Hughes Jones. Foyle [1937]. Tdd.46, 9d. The Land of Wales, gan Eiluned a Peter Lewis. Batsford, 1937. Tdd. viii, 120 1270 ddarluniau 7s. 6d. CYNNWYS The Land of Wales y casgliad gorau o luniau o Gymru a welais i erioed a dyna brif rinwedd llyfrau a gyhoeddir gan y Mri. Batsford ond ar wahân i hynny y mae'r llyfr yn siomedig iawn. Ni ddisgwylid i lyfr fel hyn fod yn fanwl-gywir a chwedi gweld ymhlith y lluniau un yn honni ddangos "Llangurig on the Upper Wye, Cardiganshire," gwelir mai felly y bydd y llyfr hwn. Ond nid yw anghywirdeb o gymaint pwys ymhlith y lluniau eithr pan eir at fater y llyfr, gwelir mai arwynebol