Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A Ydych Chwi wedi Ymuno a'r CLWB LLYFRAU CYMREIG Eto ? Y mae llu mawr wedi ymuno erbyn hyn, ond nid yw'r fil sy'n ofynnol cyn cychwyn y Clwb wedi ei sicrhau. Y mae llawer ohonoch yn bwriadu ymuno, ond yn rhyw oedi. Bydd yn help mawr i'r mudiad os cawn enw pawb a garai ymuno ar unwaith. Amcanion y Clwb 1. Sicrhau cylchrediad gweddol i lyfrau na ellid mentro eu cyhoeddi am y pris, os o gwbl, heb hynny o sicrwydd. 2. Rhoddi i Gymry heddiw lyfrau yn delio â phroblemau arbennig y dydd yng Nghymru-heb fod o safbwynt unrhyw blaid—a'r rheiny wedi eu sgrifennu mewn ffordd ddeniadol a diddorol. 3. Cyhoeddi llyfrau o lenyddiaeth, amryfal etc., o waith gwyr cyfoes neu o drysorfa llenyddiaeth Gymraeg y gorffennol, a fyddo o fudd arbennig at lunio'r Gymru newydd a gwell. 4. Peri ymgydnabod â llafur cenhedloedd bychain eraill yng ngwa- hanol rannau'r byd, fel y dysgo Cymru rywbeth oddi wrthynt. 5. Cael cyfres o bedwar llyfr y flwyddyn o'r natur yma am bris o fewn cyrraedd poced pawb. Bydd argraffiad y Clwb o'r llyfrau hyn yn llawer rhatach na'r argraffiadau a ddygir allan ar gyfer y cyhoedd ar wahan. 6. Ennyn drwy gyfrwng y cylchoedd myfyr y gobeithir eu sefydlu yn gysylltiedig â'r Clwb, ymchwilgarwch a diddordeb mwy ym mywyd ein cenedl yn y dyddiau adwythig hyn. Cofier mai llyfrau ARBENNIG y Clwb yn unig a gyhoeddir, — yn hollol ar wahân i gyhoeddiadau unrhyw ffyrm arall o gyhoeddwyr. Gellwch gael llyfrau'r Clwb gan yr holl lyfrwerthwyr. Drwy'r llyfr- werthwr y dymuna'r Clwb weithredu, ac nid yn uniongyrchol, heblaw mewn achosion eithriadol. A WNEWCH CHWI ANFON EICH ENW CHWI, AC ENW UN CYFAILL O LEIAF, AR UNWAITH ? GYRRER YR ENWAU I'R CLWB LLYFRAU CYMREIG, 33, NORTH PARADE, ABERYSTWYTH.