Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CNAWD AC YSBRYD Duw ni waharddodd inni garu'r byd, A charu dyn a gwaith ei ddwylo ef, Eu caru â'r synhwyrau noeth i gyd, Pob llun a lliw, pob llafar a phob llef Bydd cryndod yn ein gwaed pan welwn ôl Ei fysedd crefftgar ar y cread crwn, A berw, pan floeddiwn, mewn gorfoledd ffôl, Na fynnwn fywyd fel y bywyd hwn. A phan adawo'r ysbryd wisg y cnawd Yn blygion stiff ac oerllyd yn yr arch, Odid na ddelo rywbryd, ar ei rawd, I'w wisgo eilwaith fel dilledyn parch, Dwyn ato'r corff, ei ffroen a'i drem a'i glyw, I synwyruso gogoniannau Duw. D. GWENALLT JONES. GOLYGYDDOL PEN BLWYDD. BLWYDDYN yn ôl, yn y nodiadau golygyddol hyn, croes- awem y newydd am losgi'r siediau ar dir Penyberth; yn awr cawn y fraint o groesawu'n ôl i Gymru'r tri gŵr a'u llosgodd. Beirniadwyd Heddiw droeon am fod yn rhy deyrngar i Blaid Genedlaethol Cymru-prin bod rhaid dweud nad aelodau o'r blaid a welodd y teyrngarwch mawr hwn-ond credwn yn sicr na omedd neb inni groesawu'r Tri, serch mai arweinwyr y Blaid