Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae angen y gwaith sylfaenol hwn ac aeth cryn dipyn ohono i golli wedi ei wneuthur. Cynhaliodd y Blaid Genedlaethol ryw ddeuddeg o ysgolion haf, a thraddodwyd nifer o bapurau ym mhob un. Cyhoeddwyd papurau ysgol 1936 yn llyfr o'r diwedd, cyhoeddwyd eraill yn bamffledi, ereill yn y Ddraig Goch, ac am y lleill, darfu amdanynt fel pe nas ganesid hwynt. Nid oes efallai ond gobeithio y gall y Clwb Llyfrau Cymreig gynorthwyo i wneud y gwaith sylfaenol hwn. Mae un agwedd arall i'r broblem a haedda sylw. Rhai a fagwyd yn y teulu Cymreig yw'r rhai sy'n ymgodymu â hi yn naturiol, oblegid ni sylweddola'r rhai a reola'r ffrâm fod problem a dyna rhan fawr o'r broblem. Ond llesteirir y Cymry trwyadl hyn hwythau gan eu hanwybodaeth, neu yn hytrach eu diffyg ymdeimlad, â theithi meddwl y rhai a reola'r ffrâm. Ambell Gymro'n unig sy'n gallu dysgu nad yw llywodraeth Westminstr a swyddogion Whitehall yn gas wrth Gymru o fwriad gwr a godwyd mewn alltudiaeth, a deall meddwl y Llywodraethwr o Sais wrth brifio yn ei gwmni, a welodd gliriaf mai anwybodaeth ac nid cas, oedd hanfod camdrin Cymru yn Westminstr. Oher- wydd yr angen am weledigaeth o'r fath y mae'r gwyn nad yw Mr. Saunders Lewis yn Gymro "naturiol" yn colli grym ac oherwydd dangos o'r misoedd diwethaf yr angen am arweiniad gwr a chanddo'r weledigaeth honno y byddwn mor falch o gael croesawu Mr. Lewis yn ôl-heb addo y cytunwn hyd yn oed ag ef bob cynnig. POST MORTEM! MACHYNLLETH Y MAE'R Eisteddfod Genedlaethol yn enghraifft o un nodwedd yn ein bywyd fel Cymry sydd yn anodd iawn i bobl o'r tu allan ei ddeall. Gwerir ynni mawr i gynnal yr Eis- teddfod bob blwyddyn ond er mai eisteddfod un genedl fach ydyw, bydd ei phrif swyddogion yn dirwyn y busnes i fyny ar ddiwedd yr Eisteddfod bob blwyddyn a swyddogion eraill mewn tref arall ben pellaf y wlad yn llunio'r Eisteddfod Genedlaethol nesaf, heb wybod dim na malio dim am hynt a helynt ei gilydd.