Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD Sbaen. "Epic mwyaf y ganrif hon" yw'r rhyfel Sbaenig yn ôl un o'm cyfeillion Sbaenig a fu'n ymladd oddi ar y dechrau. Ar ôl i'r cadfridogion mwyaf talentog fradychu'u gwlad, gorchwyl ofnadwy oedd mobileisio dynion hanner-llythrennog a'u trwytho yn egwyddorion milwriaeth. Gorchwyl arall oedd dyfod o hyd i'r ysbïwyr a'u dodi tan glo. Peth calonnog iawn yw gweled bod y llywodraeth erbyn hyn yn llwyddo yn y gwaith hwnnw. Ysgrifennaf y nodiadau hyn heb gael ond ychydig o newyddion o'r ffrynt, ond â digon ei wala o newyddion am ys- bïwyr o Almaenwyr ac Eidalwyr a ddaliwyd ym Madrid a Bar- celona. Dengys hyn oll fod y llywodraeth Sbaenig wedi dysgu gweithio yn fwy effeithiol. Ar yr un pryd, daw newyddion am y mor-ladron, — (Sut yn enw pob rheswm y gellir peidio â'u galw felly?) yn ymosod ar rai o longau Caerdydd, a'r llywodraeth Brydeinig yn gwneud ei gorau glas i fod yn neis wrthynt er hynny. Yr oedd yn rhaid protestio wrth gwrs, ac fe wêl ein llywodraeth ni yn dda i anfon eiphrotest at y mor-ladron. Ond pe bai lleidr wedi torri i mewn i'm ty i, i'r awdurdodau cyfreithlon yr apeliwn i ac nid i'r lleidr. A mwy na hynny,­buaswn yn fodlon helpu'r hedd- geidwaid i'w ddal pe bai hynny'n rhaid. China. Yr un yw egwyddorion helynt China ag eiddo Sbaen. Bradwyr i'w gwlad yw cadfridogion y gogledd, sydd wedi ym- fodloni ar "ymreolaeth" y rhan honno o'r wlad er budd i Im- perialwyr Japan. Gwnaethant yr un tric â Franco, Mola, Queipo de Llano, etc. Yr un esgus sydd gan arglwyddi rhyfel Japan ag sydd gan Ffasistiaid yr Almaen a'r Eidal sef "ymladd yn erbyn Comiwnistiaeth." Dyna reswm rhyfedd am ryfela yn erbyn Sbaen, gwlad sydd heb fod yn fwy "Comiwnistaidd" na Ffrainc. Mae yn wir bod rhanbarth Sofietaidd i'w chael yng ngorllewin China. I fod yn gyson felly, onid ar y rhanbarth honno yn unig y dylai'r Japaniaid ymosod ? Fe ddylai fod yn eglur i bawb mai esgus gwan yw'r sôn am wrthwynebu Comiwnis- tiaeth. Cipio'r marchnadoedd Chineaidd yw amcan y Japaniaid wrth gwrs. Pe gadewid i'r Chineaid ddatblygu eu gwlad yn naturiol, gallent ddysgu cynhyrchu'r nwyddau sy'n angen- rheidiol yn lle prynu'r pethau hyn gan y Japaniaid. Brazil. Eleni, fe losgir 30 y cant o'r cynhaeaf coffi yn Brazil, er mwyn cadw'r prisiau i fyny yn y Taleithiau Unedig. Y mae 48,550,000 cwdyn o goffì eisioes wedi eu llosgi. A welwyd y fath ynfydrwydd erioed