Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

barn a llafar ar y naill law a rheolaeth grym bwystfilaidd ar y llall. Fe red y llinell ofnadwy honno o'r gogledd i'r de, ond fe geir un gwlad ddemocrataidd ar yr ochr ddwyreiniol iddi, sef Czechoslovakia,-megis ynys o ryddid yng nghanol mor o ormes, canys y mae glwedydd Ffasistaidd yn ei bygwth ar bob ochr. Ar ol Sbaen, dyna'r wlad nesaf ar y rhestr. Dyna fan gwan y ffrynt ddemocrataidd. Heddiw daw'r newyddion fod Portugal wedi torri ei chysylltiadau diplomataidd ar wlad honno. Y rheswm yw bod cwmni preifat yno wedi gwrthod parhau i anfon arfau i Bortugal, iddi hi yn ei thro eu hanfon yn syth at Franco a'i griw o ladron a llofruddiwyr. Duw a wyr beth a ddigwydd yn y cyswllt hwnnw cyn i'r llinellau hyn weled golau dydd. CYRIL P. CULE. LECSIWN WYDDELIG Chwythai gwynt grymus o'r môr gan chwipio'r tonnau'n frigwynion dros y morglawdd a geidw ddyfroedd harbwr Caergybi'n dawel pan fo chwyrnaf y dymestl. Safem ar ddec uchaf yr adran rataf a phrinnaf ei moethusrwydd yn y llong a'n cludai o Gymru i Iwerddon. Llithrodd yr Ynys Halen yn araf heibio i ni. Troesom o'r harbwr a chyrchu'r Gorllewin gan syllu ar Ynysoedd y Moelrhoniaid lle trig dynion unig, haf a gaeaf,yn goleuo llwybrau'r môr i longau'r byd. Yn fuan gorweddai erwau'r pysg yn filltiroedd aflonydd rhyngom a Chymru ac ymffurfiodd mynyddoedd Eryri a Llyn yn rhes ddu, warcheidiol ar y gorwel. Meddyliwn am Fadog fab Owain Gwynedd pan giliodd, yn ôl y chwedl, o ferw bywyd Cymru i geisio hedd yn ynysoedd eithafoedd y môr. Wele'r olwg olaf a gafodd ar ei wlad, yn rhimyn ar ymyl y tonnau. Rhith ydoedd Cymru weithian a chiliodd hithau'n ddigynnwrf dros y gorwel i'r dwr. Ffoi rhag berw a wnaeth Madog. Chwilio am ferw a wnaem