Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDD Y GORON. Uchod ceir digriflun gan R. Ll. Huws o J. M. Edwards, Bardd buddugol Machynlleth. Ganwyd ef yn Llanrhystyd ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Mae'n debyg mai darlun o'i bentref a geir yn y bryddest fuddugol. Enillodd J. M. Ed- Edwards ei gadair gyntaf yn Eisteddfod y plant ym Machynlleth yn 1922. Yn ei dro enillodd gadair yr Eisteddfod Gyd-Golegol, Cadair Powys a Chadair Eisteddfod De Gymru. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Aberaeron ac oddiyno aeth i Goleg Hyfforddi Caer- fyrddin. Yn Aberaeron daeth o dan ddylanwad Mr. E. O. James a oedd yn athro Cymraeg yn yr ysgol ac yn wr enwog am ei hoffter o farddoniaeth, yn enwedig barddoniaeth gaeth. O Gaerfyrddin aeth yn athro ysgol i Lanbadarn ac yno y bu nes symud rhyw ddwy flynedd yn ol i fod yn athro Cymraeg mewn ysgol elfennol yn y Barri. Y mae Mr. Edwards yn wybyddus i lawer fel gweithiwr selog gyda'r Blaid Genedlaethol a hefyd fel awdur dwy gyfrol o farddoniaeth.