Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ANGLADD CHWI wyddoch mor ofergoelus y gall pobl fod nid rhyfedd felly i Tomos y Wern dynnu wyneb gwelw a chrafu'r ychydig wallt brith a geisiai guddio noethni'i gopa wrth fyfyrio'n ddwys am rywbeth a ddigwyddodd y noson cynt. Gellid gweld yn amlwg fod ìhywbeth yn pwyso'n drwm ar ei feddwl. Cerddai heno'n ol a blaen gyda chlawdd y berllan, gan edrych yn syth i'r llawr, a chicio ambell ddant-y-llew neu ysgellyn wrth gerdded. Aeth Tomos i'r ty i gael swper, ond ychydig o flas a gafodd ar y bara a'r caws. "Odich chwi wedi colli'ch stymog, Tomos?" holai Maria'i wraig. "Ydw," ebe yntau'n araf, fel pe'n breudd- wydio­ac yna'n sydyn -y, nadw, pam, be' sy'n bod te ?" Ond gwyddai Maria'n dda fod rhywbeth o'i le arno. "Rhaid i chi fynd i'r gwely'n gynt heno," meddai hithau, "yn lle aros lawr yn hwyr i wneud penillion. 'Fedrwch chi ddim bod yn fardd ac yn ffarmwr. Rhaid i chi roi'r hen steddfod ma heibio." "Ie," meddai yntau'n syn, "ie, falle bydd achos gen i orffen a nhw cyn hir. Gwrando Defi John" (gan annerch ei fab deuddeg oed) "rho hwn lawr ar y Llyfyr Mowr — Nid yw'r adar heno'n canu Alaw is y nef, Gwyddant golli un ohonynt Wrth ei golli ef." 'Sgrifennai Defi John linell wrth linell, ei dafod allan yn bansol, a'i ben ar dro. "Beth yw'r heding, dita, y Dryw?" meddai hwnnw, a rhyw dinc ddiriedus yn ei don. "Nage, was," meddai'r bardd, a golwg bell yn ei lygaid, feallai mai Tomos dy dad fydd yr heding." Aethpwyd i'r gwely'n gynar, ac erbyn deg, 'roedd y teulu'n cysgu'n gyfforddus, ond rhyw freuddwydio ar ddihun wnai Tomos. Ceisiai weddio'n dawel, a chyffesu ei aml bechodau, ond nid oedd argoel fod neb yn gwrando arno yn sicr, nid atebodd neb ei weddi Anghofiai weddio toc, a gwelai dalp o faen mar- mor yn codi allan o'r pridd rhwng beddau'r fynwent. Gwelai ei enw'n gerfiedig arno, a phennill bach syml oddi tano. Clywai rywun yn dweud, "Diar mi, darllenwch y pennill bach na to-- mae mor streicing Fe wyddai'r hen Domos yn iawn fod e'n mynd i farw. A 'rodd e shwd ffrind i'r adar bach beunydd!"