Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADAUlf CYMRO DYDDIADAU'R taith fydd y nodion hyn yn bennaf y mis hwn, oherwydd mai "ar gered," chwedl y Sowth, y bûm i ran helaeth o'r mis. Paddington nos Sadwrn cyn Gwyl y Banc. Gorsaf lawn. Acenion y Rhondda a'r Ynys Werdd, Penfro a Cheredigion yn un gymysgfa soniarus, gartrefol. Rhuthr am sedd. Eistedd i lawr yn y gongl bellaf i'r compartment â'm cefn at y peiriant. Ceisio darllen ein papur cenedlaethol bondigrybwyll i weld pa ffolineb newydd a ddaeth drwy dwll potel inc y golygydd gwrth Gymreig. Cewcian dros orwel y papur i astudio fy nghyd- deithwyr. Gwyddelod bob un. Siarad mewn iaith ddieithr yn fy ymyl. Gwyddeleg mae'n siwr. Un o'r siaradwyr yn gwisgo modrwy euraid yn lapel ei gôt. Gwneud esgus ohoni i holi'r ddau. Arwydd y "Gaelic League" ydoedd. "Ydi'r Wyddeleg yn cynyddu yn yr Iwerddon ? Ateb. "Ydi, diolch i De Valera. Y mae'n rhaid i bawb ei dysgu yn awr os am swydd o bwys." Aethant â mi am dro drwy'r trên i brofi pa faint o Wydd- elod oedd arno yn medru Gwyddeleg. Gwaith y Gaelic League yn Llundain, meddent gyda balchter. Meddwl. Druain o Gymry Llundain. Gwell gan flaenoriaid capelau'r ddinas was- traffu eu harian ar godi clwb dawnsio nag ar geisio hybu'r diwyll- iant gwi- Gymreig a Chymraeg. Eleffant Gwyn arall. Gwerth ail adrodd sylw un o'r cyfeillion ar y cynnwrf yng Ngogledd Iwerddon. (adeg ymweliad y brenin Brenin Lloegr, ydoedd hi.) "We will have to get rid of that frontier even if it means bringing in the carpenters again." Methu deall. Esboniad. Cofiai rhain 1921--22 a'r llu seiri a luniai eirch y meirw. Druan o Gymru Ond bu De Valera yng ngharchar. Gobaith. Wedi awr a rhagor o siarad dug y cyfeillion offerynnau cerdd o'u bagiau. Pibell Wyddelig ac organ ceg. Alawon Cymru, Iwerddon a'r Alban yn un rhes felodaidd. Gwynt yn pallu. Dwyn allan gyfrol o farddoniaeth a dramau Padriac Pearse. Diwylliant Adrodd iddynt gyfieithiad T. Gwyn Jones o un o ddarnau gorau Pearse. Lendid pob glendid Yn noeth y'th welais di, A chau fy llygaid Rhag ofn a wneuthum i.