Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ERIC GILL A'R GWIR CHWYLDROAD A MBELL ddyn yn unig sydd yn cael cyflawni campau mor bwysig ag eiddo Eric Gill. A champau ydynt sy'n bwysig nid am eu bod yn gyffrous nac yn glyfar, ond am iddynt fynegi meddwl o uniondeb di-gymar odid na ellid dweud mai bod yn deilwng o Eric Gill yw camp fwyaf Eric Gill. Ce/fluniwr a chwyldrôdd gerfluniaeth wrth droi'n ôl at nerth a symlrwydd, cynlluniwr llythrennau a roddodd i'r argraffydd ffurfiau nad yw'n debyg y ceir eu gwell gan mor osgeiddig a ddarllenadwy ydynt, darluniwr a wnaeth sylwadaeth derfynol ar lyfrau fel yr Efengylau a'r Canterbury Tales-y rhain oll yw ef, a llawer mwy proffwyd ydyw. Ond nid rhyw gyffredinoli rhwydd mo'i broffwydoliaeth, nid cyfarpar y chwyldrowr wrth grcfft mo'i ymosodiadau ar ddiwyd- iannaeth gyfalafol. Canlyniad anorfod ei syniad am ddyn a gwaith dyn ynt. Iddo ef, nid extra mo gelfyddyd, oblegid "nid math arbennig o ddyn mo'r celfor, ond math arbennig o gelfor yw pob dyn, oherwydd bod gan bob dyn, am mai dyn ydyw, y gallu i greu, am ei fod yn greadûr a chanddo ddychymyg." "Gwneud yn dda yr hyn y dylid ei wneud", ynteu, yw cel- fyddyd, ac wrth ail-feddiannu'r gwirionedd hwn y dygir i ben yr unig chwyldroad sydd o bwys-sef adfer dyn i'w le priod mewn byd dan reolaeth Duw, Creawdwr dyn. Eithr yn y byd a ad- waenom ni, darostyngwyd y mwyafrif o ddynion i gyflwr o ang- hyfrifoldeb meddyliol a moesol nid ynt ond unedau peiriannol mewn byd a aeth o'i gof. A mater o baentiadau i arianwyr ac o addurniant fflatiau costus yw "celfyddyd". Wrth ei grefft mae'r artist yn ddi-ddefnydd, heb gysylltiad â dim sylweddol. Gosod pethau cyntaf yn gyntaf, felly, yw gofal Eric Gill, ail-gyhoeddi urddas dyn fel bod yn deall ac yn creu. Gellid yn hawdd galw maniffesto, ar Work and Property\, canys cawn ynddo ddadansoddiad eglur a chyson, huawdl o ganlyniadau gwahanu dyn oddiwrth y gallu i greu sydd yn unig yn ei osod ef o'r neilltu oddi wrth anifeiliaid y maes. Dywedodd Mr. Gill lawer o'r hyn sydd yn y llyfr o'r blaen. Ni ellir dweud dim ohono'n rhy aml. Canys i un darllenydd o leiaf ymddengys bod y condemniad hwn ar ynfydrWydd byd lle y meddylir yn olaf am f Work and Property, gan E. Gill, Dent, 1937.