Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

brif ddiben dyn, a lle y mae hamdden yn dod i olygu'r unig ran o fywyd sy'n werth ei byw, yn bwysicach o lawer na rhaglenni politicaidd ac areithiau sych-dduwiol. Ond-medd rhywun yn gwynfannus-ychydig o'r ymarferol sydd yn y llyfr. Ceir llawer o ddifrio "academy art", llawer o feirniadu Cristnogion a fradychodd eu hegwyddorion, llawer o gondemniad ar usuriaeth a'r uwch-ariannaeth, ond ychydig sydd yn heipful. I'r fath gwyn, teg fyddai ateb Eric Gill nad ei fusnes ef yw bod yn helpful. Dangosodd inni ymhle i geisio ateb "We are saved by good will, but we cannot see good without the creative raculty. So the value of the creative faculty is that it makes a man a man. And it is man who has been ledeemed." \Work and Property, gan Eric Gill. Dent, 1937. Tdd. 141, 7/6. Gobeithio y bydd i'r rhai a feddyliodd am Eric Gill hyd yn hyn fel "cerflunydd modern" yn unig, frysio i ddarllen y llyfr hwn. Y mae ynddo'i hun yn deilwng o'i awdur, wedi'i argraffu yn llythyren enwog y Perpetua a gynlluniodd ef; ac mae ynddo hefyd ddeuddeg o ddarluniau disglair eu dychan gan Denis Tegetmeier-amdanynt hwy ni ellir ond dweud nad ynt ann- heilwng o'r testun. J. ALBAN EVANS. DRAMA A RADIO YMADEWAIS â Machynlleth, wedi treulio wythnos ddiddan gyda rhyw fath o ymdeimlad trist-lawn. Tristwch wrth gofio am gynnyrch y brif gystadleuaeth cyfansoddi drama, a llawenydd o gofio y chwarae a gafwyd yn neuadd y dref a hefyd ganlyniad cyfansoddi dramau byrion. Anffawd fwyaf y ddrama Gymraeg yw'r ffaith nad yw llwyddiant y chwarae yn cyd-redeg â llwyddiant cyfansoddi. Y mae safon y chwarae yn anrhaethol uwch na safon y dramau.