Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. Çyfres Chwedl a Chan, Llyfr 2. Gan D. J. Williams, Llanbedr. Gwasg Aberystwyth, 1937. 2s. Gwnaeth D. J. Williams gymwynas fawr â phlant Cymru, yn enwedig a phlant ardaloedd Cymru Gymraeg, trwy drefnu Cyfres Chwedl a Chân,-cyfres o lyfrau darllen ar gyfer y safonau. Da gennyf feddwl y gall plant o bob safon yn Ysgolion Cymru Gym- raeg heddiw gael llyfrau darllen deniadol, diddorol a chwaethus. Gresyn na fedr ond ychydig iawn o blant ardaloedd poblog y Deheudir ddigon o Gymraeg i fwynhau llyfrau fel y rhain. Llyfr i blant o 8 i 10 oed yw'r Gyfrol hon, a llyfr rhagorol yw. Gwyr yr awdur yn ddiau beth yw safon darllen Cymraeg plant Cymru Gymraeg, ac ymfalchiwn, felly, fod gennym Gymry ieuainc a fedr fwynhau'r amrywiaeth a geir yn y llyfr hwn, mewn Cymraeg mor firain a choeth. Y mae'r safon yn uchel,-yn uwch o bosibl nag mewn llyfrau Saesneg i blant o'r oed yma. Y mae'r para- graffau a'r brawddegau wedi'u llunio'n ofalus, a cheir ambell frawddeg fer nodedig o afaelgar y byddau'n dda i'r plant eu dysgu ar eu côf. Y mae'r chwedlau'n ddigon diddorol i ddenu'r plant i'w darllen, er o bosibl fod rhai ohonynt sy'n adnabyddus iddynt yn y Saesneg yn colli rhyw ychydig o'r newydd-deb a'r ffresni angenrheidiol i hyn. Eto nid oes arlliw cyfieithu ar y storiau hyn. Llwyddodd Laura J. Thomas yn "Afalau'r Dder- wen" ac Annie Owen yn "Y Pryf Gopyn" i lunio storiau gwych yn cyflwyno llawer o wybodaeth am y materion dan sylw. Y mae'r darnau barddonol bron i gyd yn "taro deuddeg". Ar y cyfan y maent yn rhagori ar y rhyddiaeth mewn symylrwydd a thinc byd plant o'r oed yma. Y mae rhyw swyn anghyffredin yn "Chwilio am Mami," (T. Gwynn Jones) ond dyma feirniadaeth geneth naw oed-"O diar pam y rhaid i chwi ofyn cwestiynau i mi'n awr." Ie, pam hefyd. Dywed yr awdur yn ei Ragair i Gyfrol 5 "Y lluniwyd yr ymarferiadau ar ddiwedd pob gwers fel sylfaen trafodaeth rhwng athro a'r dosbarth." Os defnyddir hwynt felly popeth yn iawn. Llyfrau darllen er mwynhad yw'r rhain ac y mae perygl rhuthro i brofi'r plant ar gynnwys y storiau ar unwaith. Mater o dechneg yw hyn, wrth gwrs, ond o gael ymarferiadau mewn llyfr darllen fel hwn credaf y byddai gosod yr ymarferiadau gyda'i gilydd ar ddiwedd y llyfr yn well na'u gosod