Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn union ar ol pob pennod. Y mae gosod ymarferiadau ar ddiwedd pob stori a phob darn o farddoniaeth yn TUEDDU i fod yn ystrydebol. Llyfr gwych i'w fwynhau yw hwn, ac os bydd braidd yn anodd i blant o'r oed a nodir mewn rhai ardaloedd, defnyddier ef ar bob cyfrif mewn safonau uwch. Y mae'n ddestlus ei rwymiad a'i ffurf, a'r darluniau sydd ynddo'n dda iawn, ond y mae'r argraff braidd yn rhy addurn, yn rhy ddu a thrwm i lygaid plant o'r oed yma. D. O. ROBERTS. Early V aticination in Welsh with English Parallels, by Margaret Enid Griffiths. Edited by Professor T. Gwynn Jones. Gwasg Prifysgol Cymru, 1937. Pp.240. 5s. Ni allwn lai na theimlo'n ddiolchgar am astudiaeth feis- trolgar ar elfen bwysig yn hanes ein cenedl mewn cyfnod fel y presennol pan deimla llawer o efrydwyr Cymreig mai eu prif ddyletswydd ydyw cyhoeddu testunau beirniadol gyda nodiadau ar eiriau. Y mae'n wir fod y llyfrau sychion yma yn hollol angenrheidiol ond gresyn na cheid mwy o astudiaethau tebyg i'r eiddo Margaret Enid Griffiths a'i gwnâi'n bosibl i'r myfyriwr cyffredinol gyfranogi o ffrwyth llafur yr ymchwiliwr. Rhydd y llyfr hwn i ni hanes datblygiad proffwydoliaethau Cymreig o'r dechrau hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg, a'u cysylltiadau a phethau tebyg yn llenyddiaeth cenhedloedd cyfagos. Yn y bennod gyntaf dangosir sut y tyfodd proffwy- doliaeth allan o arferion dewinol i reoli digwyddiadau'r dyfodol. Y gwahaniaeth rhwng dewin a phroffwyd ydyw bod y naill yn dal y gall ef benderfynnu' r dyfodol tra nad yw'r llall yn honni ond gwybodaeth o'r hyn sydd yn mynd i ddigwydd. Dyn sydd yn anfodlon ar gyflwr pethau fel y maent sy'n ceisio rheoli'r dyfodol, ac ymhlith cenhedloedd gorthrymedig y mae proffwydoliaeth yn fwyaf amlwg. Dengys y dyfyniadau lluosog a geir yn y gyfrol ddyhead beirdd a llenorion Cymru am ryddid cenedlaethol ac fel y casaent y Saeson gyda chas perffaith. Pröffwydent ddyfod arweinydd a ddygai'r Cymry i fuddugoliaeth yn erbyn eu gelynion mewn brwydr waedlyd pan fyddai- "llawer Cymro llawen, llawer Sais heb ben, llawer llen yn unig, llawer cyfrwy yn wag." Pan ddeuai'r arwr byddai "byd anhyfryd i Saeson" a dial ar y gorthrymwyr. Ysgrifennwyd y llyfr yn Saesneg ond yn anffodus fe gyll y darllenydd di-Gymraeg lawer o'r ystyr gan fod y tudalennau yn frith gan ddyfyniadau o Gymraeg Canol. Byddai'n llawer hwylusach pe cyfieithiasid y dyfyniadau ar waelod y ddalen neu ar ddiwedd y llyfr. m A.D.R. J