Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llyfrau ar gyfer HEDDIW Sefydlwyd ein siop lyfrau mewn oes gyfnewidiol, pryd y mae'r cyfnewidiau yn aml a pheryglus. Bellach ni siaradwn am gadw heddwch, ond am osgoi rhyfel boddir llais democratiaeth yn swn ffrwydradau gynnau mawr. Rhaid wrth fwy na llyfrau i'n dwyn allan o'r creisis hwn Ond fe all llyfrau ein helpu, ac am y rheswm hwn y mae ein siopau llyfrau ni yma. Ar y silffoedd fe gewch wleidyddiaeth mewn gweithrediad yn Ewrop, yn yr Amerig, yn Asia,-yn Nhonypandy a Gwaun- cae-gurwen. Y mae pethau'n digwydd y mae meddyliau ychydig wyr yn creu hanes. Dyma Ffasgaeth yn yr Eidal, Hitler yn yr Almaen, Y "New Deal" yn yr Amerig, "The Rising Sun" yn Sina, Y Llywodraeth Genedlaethol ym Mhrydain, Y "Front Populaire" yn Ffrainc, a byd newydd yn Rwsia. Rhy'r llyfrau storiau unigolion na fynnent fod yn dawel Dimitrov, Lenin, Sacco a Venzetti ac am ddigwyddiadau nas anghofir byth Y Commune 1871, Hydref 1917, Wythnos y Pasc yn Nulyn, Streic y Cambrian yn 1911. Llenyddiaeth gyffredinol hefyd,-cystal amrywiaeth ag a gewch mewn unrhyw fan yng Nghymru, a llyfrau yn Gymraeg, Sbaeneg, Ffrangeg a Rwseg. Fe rhodiir sylw prydlon i unrhyw ymholiadau. COLLETS South Wales Bookshop Limited, 26, Castle Arcade, Cardiff. Phone-7079. Market Stalls at Swansea, Port Talbot & Aberdare.