Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgeidiaeth Iesu Grist, gan y Prifathro J. Morgan Jones. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru. 1937. 2s.6d. Cyhoeddwyd y llyfr hwn gyntaf rai blynyddoedd yn ôl, a theimlwn yn ddiolchgar iawn i Wasg Prifysgol Cymru am yr ail argraffiad hwn. Caiff y Cymro yma waith safonol ar destun sydd yn agos iawn at ei galon. Bydd dadlau ac astudio y gyfrol hon wrth wneud astudiaeth yn ein hysgolion Sul eleni o Efengyl Mathew o werth amrhisiadwy i bob athro a disgybl. Dywed yr awdur mai "y prif beth oedd yn fy meddwl oedd rhoi am- linelliad a darlun positif a hanesyddol o ddysgeidiaeth yr Iesu ar sail yr astudiaeth feirniadol orau o'r Efengylau y gwyddwn amdani a thrwy gyfeiriadau mynych at yr Efengylau eu hunain galluogi'r darllenydd i farnu gwerth a dilysrwydd y darlun drosto'i hun." Llwyddodd yr awdur i wneud y gwaith anodd hyn yn anghyffredin o wych. Pan ysgrifennir ar Ddysgeidiaeth Iesu Grist yng ngoleuni gwybodaeth ddiweddar un o'r anhep- gorion yw cael cytbwysedd cryf ym meddwl yr ysgrifennydd. Mae yn hawdd iawn colli'r ffordd ynghanol yr amryfal syniadau a geir heddiw am ei ddysgeidiaeth Ef, ond fy marn onest yw y gall y darllenydd deimlo ei fod yn llaw brawd diogel iawn ei arweiniad yn y llyfr hwn. Awydd mawr y Prifathro yw cael y darllenydd i feddwl drosto ei hun-caiff gynorthwy mawr i wneud hyn ac i ffurfio barn gadarn ar sail gwirionedd y gyfrol werthfawr hon. Dysg yr awdur inni wahaniaethu rhwng yr hyn a ddysgodd yr Iesu ei hun a'r hyn yn fynych a briodolir iddo. Pair inni weld yn glir y gwahaniaeth rhwng syniadau Iddewaidd a defnyddio ein Harglwydd Iesu i roi myn- egiant i'w ddysgeidiaeth a'r gwirionedd parhaol sydd yn ei eiriau Ef. Dau beth yn arbennig a'u hargraffodd eu hunain ar fy meddwl o ddarllen y gyfrol-gonestrwydd yr awdur i wynebu yn deg yr anawsderau a geir yn yr Efengylau (a phair y gones- trwydd hwn fod yr awdur yn taflu goleuni mawr ar rannau dyrys iawn yn nysgeidiaeth ein gwaredwr), a'i barch gwylaidd a'i syniad uchel o'r gwr y cais oleuni ar ei ddysgeidiaeth. Hyderaf y darllenir y llyfr yn bur gyffredinol gan fy nghyd- genedl. Ceir bendith amrhisiadwy drwyddo. O'i ddarllen daw Cymry eto i weld fod Dysgeidiaeth Iesu Grist yng ngoleuni beirniadaeth ddiweddar, y trysor pennaf a all unrhyw wlad ei feddu. E.W.