Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hiwmor, Synnwyr a Halen, gan David Delta Evans (Dewi Hiraddug). Gwasg Gymraeg Foyle. 4s.6d. Traethawd buddugol ar "Ddiarhebion Cymru, a'u dylan- wad ar y bobl" ynghyda "nodiadau ychwanegol" ar faterion a phersonau a grybwyllir yn y traethawd-dyna hanner cyntaf y llyfr. Yn yr ail hanner ceir Atgofion Mebyd yr Awdur, yn Gymraeg gan mwyaf, ond rhyw ychydig yn Saesneg. Ych- waneger at hyn doreth o ddarluniau addas ac eglurhaol, a dyna'n fyr y cawdel diddorol a geir rhwng deuglawr y cyfrol hynod hwn. Ffrwyth ymchwil, dychymyg a medr llenyddol yw'r traethawd. Rhoddir ynddo nifer o ddarnodiadau o beth yw dihareb yn ôl Howell, "Hanfodion dihareb yw byrdra, hiwmor, synnwyr a halen." A hwn a gymerwyd yn deitl i'r llyfr. Mewn un adran o'r traethawd rheffir at ei gilydd yn dde- heuig rhai ugeiniau o ddiarhebion megis "Ymadroddion pwrpasol ag iddynt ystyr penodol yw bod hen esgid yn hoffi saem gystal ag un newydd y gellir rhoi ergid cwmws â hen fwa ac yn fwy swynol fyth y ceir weithiau dôn fwyn ar delyn lapre a bod llawer hen yn well na newydd, etc., etc." Yna ceir y nodiadau o ryw ddau tudalen yr un ar y Gwyddoniadur Cymreig, Ffugchwedlau, Iolo Morgannwg, Ceiriog, Dic Aberdaron a'r llai hysbys Sion y Rhegwr a Picil Winwyn, etc. Yn y rhain ennyn yr awdur ein diddordeb trwy ryw gyffyrddiadau bach personol neu ryw stori ddoniol. Dyma hanes yr hen ieithydd Dic Aberdaron fel y cafodd yr awdur ef gan ei dad "Un digri anghyffredin oedd o wel' di, ac aflêr hefyd efo hen het fawr ac heb gael torri ei wallt ers misoedd, na molchi chwaith, fuaswn i'n meddwl wrth ei olwg o. 'Roedde nhw'n deyd bod o'n arfer gwisgo tri phar o lodrau, tair gwasgod o wahanol liwiau a thair o gotiau a'u pocedi'n llawn o hen bapurau a 'sgrifau, a byddai ganddo wastad fwndwl o hen lyfrau o dan ei gesel." A dyma stori am Iolo. "Y mae eisoes ar dudalennau hanes mai gan Iolo Morgannwg y gwnaethpwyd yr 'englyn' byr- fyfyr Saesneg gorau erioed. Yn ystod un o'i bererindodau yn Llundain, cyfarfu â lodes landeg, dlos, yn canu yn un o'r heolydd; a dychrynodd golwg echreiddig yr hen fardd gymaint arni fel nas gallai fynd ymlaen efo'i chanu. Arafodd Iolo ei gamau, ac yna, ag ymgrymiad gwylaidd, cyfarchodd yr eneth fel hyn- "Oh! glorious, beauteous Betty-how lavish Hath love been of beauty Sing more, lass; sing merrily Don't, fair maid, pray don't fear me Ond yn yr Atgofion y ceir y swyn pennaf. Disgrifir mewn iaith rwydd a seml hen weinidogion fel Rhobat Huws y Go,