Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a hen gymeriadau hynod cefn gwlad fel Mary Williams y Popty, a John Hughes (Ty Denman). Daw'r cymeriadau'n fyw ger ein bron. Cawn yn ogystal ddarluniau byw o rai agweddau ar fywyd cymdeithasol Cymry yn y ganrif ddiwethaf. Deuwn hefyd i adnabod yr awdur Dewi Hiraddug. Bu'n fugail, yn fwydwr cwn, yn ffarmwr, yn argraffydd, yn newydd- iadurwr, ac yn olygydd. Bu'n weinidog yn Llundain am dros hanner canrif. Ysgrifennodd nifer o lyfrau. Hynod yw hanes ei gyfrol "Pethau Newydd a Hen," oherwydd ef a fu yn "ei ysgrif- ennu, ei gysodi, ei argraffu, ei blygu, ei rwymo, a'i anfon allan ar ei neges." Gwr amryddawn a gwr o brofiadau anghyffredin yw'r awdur. A dyma ef yn Gymro alltud mewn gwth o oedran ac wedi gwneud diwrnod da o waith yn dwyn allan llyfr mor ddiddorol. Edmyga tô "Heddiw" ef a'i gyffelyb ymhlith tô "Ddoe." Brysied yr awdur i gyhoeddi cyfrol arall yn rhoddi'r rhelyw o'i hanes. Rhoddir derbyniad parchus iddo. DIODDEFAI'R PERSON HWN ODDIWRTH BRONCEITUS A PHESWCH POENUS. MORRIS EVANS A I GWMNI, FFESTINIOG HUW J. EVANS. Selattyn, ger Croesoswallt. "Dyna lawen yr wyf imi gymryd eich CapSUles a'ch Olew, canys y maent wedi fy ngwella o Bronceitus a phes- wch mawr. Bum yn dioddef yn ech- rydus, ac er y rhyfel ni allwn gysgu yn y nos. Gallaf ddweud yn ddibetrus mai eich Capsules chwi a'm gwnaeth yn iach a bellach gallaf fynd i'm gwely i gysgu a dilyn fy ngwaith yn gyson." CAPSULES MORRIS EVANS — AC — OLEW TEULUAIDD MORRIS EVANS sydd wedi gwella pobl mewn modd rhy- feddol ŷan oedd meddyginiaethau eraill wedi methu. Gwerthir am 1/3 a 3/- gan eich Fferyllwyr. 1