Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

In Parenthesis, gan David Jones, Faber and Faber, 1937. Tdd. XV., 224 10s. 6d. j Diau mai ychydig Gymry a wyddai am fodolaeth David Jones, yr artist, tan ymddangosiad y llyfr nodedig hwn, ynghyd â'r ganmoliaeth uchel yn y wasg Seisnig. Rhaid gwneud un peth yn eglur ar unwaith, a hynny ydyw, mai fel cyfraniad i lenyddiaeth Seisnig yr ystyrir y gwaith hwn yn y gwerthfawrogiad isod. Tueddaf i amau hawl Cymry i wneud datganiadau oraclaidd ar lenyddiaeth Seisnig, neu unrhyw lenyddiaeth heblaw'r Gymraeg; ond fe all y darllenydd Cymraeg fynegi ei deimladau a'i adweith- iau wrth ddarllen llyfr mewn iaith estron. Nid Cymro ydyw David Jones, er for peth gwaed Cymreig yn ei wythiennau. Am wn i, nad ef, o'r holl artistiaid sydd yn honni rhyw fath ar gysylltiad â Chymru, ydyw'r mwyaf ym- wybodol o'r cysylltiad hwnnw. Y mae ganddo wybodaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg, hen a ddiweddar, ac yn y gyfrol hon fe ddefnyddir y wybodaeth honno gydag effaith sydd weithiau'n wyrthiol bron. Anodd ydyw gwybod i ba adran o lenyddiaeth y dylid dosbarthu'r gwaith hwn. Hwyrach mai'r nofel, ond y mae ynddi beth wmbredd o farddoniaeth bur. Y Rhyfel Mawr ydyw thema uniongyrchol yr awdur, ond digwyddiad ydyw hynny. Y mae hwn yn rhywbeth mwy na nofel ryfel. Ymwna, nid yn gymaint â'r rhyfel, ond â'r rhyfelwyr a'u traddodiadau yn ymestyn yn ôl yn ddi-dor dros y canrifoedd. Digwyddiad oedd y ffaith mai'r rhyfel a barodd y cyffro ym mha un y medrodd yr artist wneud ei synthesis o'r ddau draddodiad-dau draddodiad a oedd ymhlyg yn ei gymeriad ef ei hun, sef traddodiad ei dad a thraddodiad ei fam. Felly, yr hyn a geir yn y gwaith hwn ydyw synthesis o draddodiad y Sais a'r Cymro wedi'u crisialu ym mhrofiad yr artist. Dywed yn ei ragair "My companions in the war were mostly Londoners with an admixture of Welshmen, so that the mind and folk life of those two differing racial groups are an essential ingredient to my theme. Nothing could be more representative. These came from London. Those from Wales. Together they bore in their bodies the genuine tradition of the Island of Britain, from Bendigaid Vran to Jingle and Marie Lloyd. These were the children of Doll Tearsheet. Those are before Caractacus was. Both speak in parables, the wit of both is quick, both are natural poets yet no two groups could well be more dissimilar. It was curious to know them harnessed together, and together caught in the toils of 'good order and military discipline' to see them shape together to the re- mains of an antique regimental tradition Ac yn y geiriau hyn y cawn yr allwedd i'r greadigaeth ryfedd hon. Trwy ddisgybliaeth y bardd a'r artist cyfunwyd dau draddodiad hollol wahanol, a'r canlyniad ydyw In Parenthesis.