Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darllen a Chwarae, (Llyfr I), gan Jennie Thomas a J. O. Williams. Darluniau arbennig gan Peter Fraser. Hughes a'i Fab. Tdd.127, ls.6d. Dyma gyfrol newydd i'r rhai bach gan awduron Llyfr Mawr y Plant, a chyfrol campus ydyw. Prif nodwedd y llyfr yw ei amrywiaeth, a hynny feallai sydd bwysicaf wrth drefnu llyfr ar gyfer plant. Y mae yma ganeuon lawer, o'r swynol- "Ple buost ti'r bore, y 'Deryn Brith'?" "Yn gwlychu fy mhig yn y dafnau gwlith." (Holi'r Adar). i'r doniol- "Llygod i gyd yn deffro'n sydyn, Bwyta'r dorth, y caws a'r menyn." Ceir amryw stori-un am ddoli, rhagor am anifeiliaid a dwy stori am ddarluniau enwog-M archog Llon, Franz Hals a Temeraire, Turner. Teimlaf fod y rhain yn haeddu canmoliaeth neilltuol. Mae darlledu wedi profi bod plant yn gwerthfawrogi'r fath bethau, ond iddynt gael eu cyflwyno mewn ffordd ddiddorol. Y mae awduron Darllen a Chwarae wedi gwneud hyn mewn dull syml a tharawiadol. Hefyd y maent wedi gwneud i ddarlun Yeames "Pryd y gwelaist ti dy dad ddiwethaf?" fyw trwy gyfrwng drama fer y gall y plant ei dysgu a'i chwarae. Ceir y lluniau eu hun gyda'r testun, a hynny mewn lliw, mewn argraffiad clir deniadol. Y mae yma hefyd un neu ddau o chwareuon fel "gofyn brawddeg" ac ar ddiwedd y gyfrol ychwanegir chwareuon a gofymadau wedi eu seilio ar y cynnwys. Semi a phwrpasol yw'r iaith o ddechrau'r llyfr hyd ei ddiwedd, yn glir ac uniongyrch heb fod yn "llenyddol" nac yn dafodieithol. Y mae amryw o ddarluniau penigamp gan Peter Fraser rhai du a gwyn ar bob tudalen bron, a phedwar plat lliw yn ogystal. Y mae rhai ohonynt yn ddoniol dros ben (sylwer ar yr olwg sydd ar wynebau'r moch bach) ac y maent i gyd yn gyfaddas ac yn ddymunol. Ni fyddai'r adolygiad yn gyflawn heb air o ganmoliaeth 1 r argraffwyr. Y mae'r papur yn gryf a llathr, y teip yn fras ac yn hawdd i'w ddarllen, a'r cwbl wedi ei rwymo mewn clawr cryf a wna wrthsefyll cryn dipyn o drafod gan ddwylo bychan. MAIR G. JONES.