Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffortiynau, comedi un act gan D. Lloyd Jenkins. Gwasg Gomer, Is. "Comedi seml un act i chwech o gymeriadau gwledig." Dyna sut y disgrifia'r awdur ei hun y ddrama hon. Gosodir yr olygfa mewn ffermdy yng Ngheredigion. Pan â'r llen i fyny y mae Tomos, hen wr dros ei drigain oed yn ceisio cael Ann, hen wraig o'r un oedran, i addo ei briodi. Sonia'n awgrymiadol am ffortiwn. Ond y mae Ann mor gyfrwys yn ei boenu â geneth ugain oed sy'n berffaith siwr d'i chariad. Wedyn, cawn y gwas a'r forwyn yn ymddiddan, a rhagor o sôn am ffortiwn. Bu lanto'n cael ei ffortiwn mewn ffair, ac y mae Gwen yn ei boeni o'r herwydd. Yna daw gwraig y fferm i mewn. Bu hithau gyda Madam Clara, yn clywed am bresant, am farwolaeth, ac am ail briodas. Daw hyn oll i ben cyn y diwedd, ond nid fel y disgwylid iddo wneud gan yr un o'r credinwyr. Y mae cyfansoddiad y ddrama'n berffaith syml, yn dibYllnu-nid ar weithrediad, ond ar y sefyllfa. Nid oes dryswch yn y cymeriadwaith ond ceir ambell linell darawiadol, e.e. Mary Jane, ar ôl clywed am farwolaeth, yn chwilio am arwyddion ffaelu yn ei mam, ac wedyn yn ei gwr. Tafodiaeth Sir Aberteifi a geir, wrth gwrs, a digon hwylus yw'r ymddiddan, heb ddim areithio gan neb. Ar y cyfan, drama fach ddymunol, heb goegni, na dwyster, na dim mwy difrifol na marwolaeth yn y beudy. MAIR G. JONES. HEDDWCH Drama mewn un Act i Chwech o Gymeriadau. Gan ANEIRI N AP TALFAN. PRIS SWLLT. Ar werth gan y Llyf rwerthwyr neu oddiwrth— GWASG HEDDIW, 40 Swiss Avenue, Watford, Herts.