Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PRÖPAGANDA'R PRYDYDD Ni pherthyn y bardd i'r byd fel i Natur werdd, Ac ni wna gyfaddawd ag ef fel y bydol-ddoethyn. Ni ddring i bulpudau'r oes, ac ni chân ei cherdd, Ni saif ar ei focs yng nghanol parc y penboethyn. Onis ganed o'r hen anachubol annynol wrach A'n synna â'i siôu o sêr neu â'i sblôut o fachlud. Nes toddi'n llymaid y lleddf a sobreiddio'r iach Heb ymddiddori ddim yn eu byw crebachlyd ? Oddieithr pan ollyngo'i bollt, a llefaru'r gair A ddychryn ein materoldeb o'n marwol wead A ddwg y ddrychiolaeth i'r wledd a'r ffantom i'r ffair, A ddengys y pryf yn y pren, y crac yn y cread Y daran a glosia'r glew at y mosc a'r mascot, Y dylif a ddiffydd yr haul ar heolydd Ascot. R. W. PARRY. GOLYGYDDOL ADDYSG. YN ystod gwyliau'r Nadolig buom yn ymweled â phentref di- wydiannol newydd yn Lloegr. Wrth borth y prif waith yr oedd nifer o dai i wahanol weithwyr yr oedd angen iddynt fod o hyd gyrraedd bob adeg ar y naill ochr i'r heol, cottages i ofalwyr peiriannau, ar y Hall villas i rai arbenigwyr technegol. Yr oedd ym mhob villa ffwrn bobi drydan, nis caniateid i drigolion y cottages. Mynegodd un ohonom ei ddicter at y snobeiddiwch hyn ac ebr un arall "Ar hyn y mae Ymerodraeth Prydain wedi'i chadarn sylfaenu." Credem y byddai peth fel hyn yn amhosibl yng Nghymru ond gwelwn berygl i'n hymdrechion ym myd addysg er ein gwaeth- af godi Cymru He y gellir pethau felly, Cymru y bydd mân wahan- iaethau dosbarth yn dod yn fwy byw ynddi bob dydd. Ystrydeb ffasiynnol ers amser maith yw bod gan Gymru olwg fawr ar addysg. Ac ystrydeb sy'n dod yn ffasiynol yng Nghymru erbyn hyn yw mai meithrin cymeriad yw amcan addysg. Yn awr am y math o ddysg y gellir yn fras iawn alw academaidd arno yr oedd syched mawr y Cymry gynt, a dylem sylweddoli mai addysg dechnegol yn hytrach na chyfrwng diwylliant fu'r addysg honno.