Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAIS O'R DWYRAIN DENG mlynedd yn ôl y bu farw Saglwl Said, arwr a thad y mudiad cenedlaethol yn yr Aifft. Daethai iddo fri ac anrhydedd erbyn diwedd ei oes, ond hanes o gystuddiau mynych a chaledi erch yw hanes ei fywyd. Yn ei frwydr yn erbyn im- perialaeth Lloegr wynebodd bob math o erledigaeth. Yn wir, onibai i arweinwyr cenedlaethol mewn gwledydd eraill gael profiadau tebyg, byddai tinc apostolaidd yn rhestr dioddefiadau'r gwr hwn. Carcharwyd ef yn fynych, taflwyd ef allan o swyddi, dygwyd cam-gyhuddiadau i'w erbyn. Cafodd wrthwynebiad nid yn unig o du Lloegr ond o du ei genedl ei hun. Ond diddorol iawn heddiw yw sylwi ar y dulliau a ddefnyddiodd Lloegr i'w erbyn. Yn ddiweddar, pan gludwyd i ffwrdd dan orfodaeth aelodau Cyngor Uchel yr Arabiaid ym Mhalestina, a hynny yn unig oherwydd y dybiaeth Seisnig mai gwyr peryglus oeddynt i heddwch y wlad, bu rhai Cymry yn agor eu llygaid. Oni ddys- gwyd ni mai dulliau priod yr Almaen a'r Eidal yw y rbain? Oni phroffesir yn gyson eu gwadu gan Loegr, a hithau'n angel gwarch- eidiol gwareiddiad a democratiaeth yn y byd ? O graffu ar hanes Saglwl Said, neu o ran hynny ar hanes Iwerddon ac India, fe wthir cred arall arnom. Od oes wledydd yn Ewrop heddiw a esyd eu ffydd fwyfwy mewn militariaeth, gallant droi yn onest at Loegr a dywedyd, Disgybl wyf, hi a'm dysgawdd. Yr oedd Saglwl Said yn wr o ddiwylliant mawr a del- frydau uchel. Nodweddid ei fuchedd wleidyddol gan gywirdeb amcan ac unplygrwydd moesol arbennig. Ei nod oedd ymreol- aeth gyflawn i'r Aifft a rhyddid llwyr iddi oddi wrth yr afael filitaraidd Seisnig. Gweithiai hefyd o blaid aelodaeth yng Nghyngrhair y Cenhedloedd ac o blaid cydnabod hawliau'r Aifft yn y Swdan. Mynych yr edliwid iddo ei styfnigrwydd. Ni fynnai dderbyn unrhyw gytundeb a roddai fymryn llai na'r nod a osododd ger bron ei wlad. Yn wir, y mae'n amheus iawn a dderbyniasai ef Gytundeb 1936. Efallai i'r erlidigaeth a brofodd haearneiddio ei gyfansoddiad ysbrydol. Oherwydd nid unwaith na dwywaith y cipiwyd ef i ffwrdd gan yr awdurdodau Seisnig am y tybid ei fod wrth wraidd yr aflonyddwcb, cenedlaethol. Treul- iodd fisoedd mewn ymneilltuaeth orfodol, ym Malta ac yn Eden, yn Seychelles ac yn Gibraltar. Ond bob tro y deuai'n ôl, can-