Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

loedd y gorthrwm, a ymddug waethaf tuag at yr Aifft. Y mae hynny'n wir am ddechreuadau'r mudiad. Disraeli ydoedd Belzebub yr ymyriad Seisnig, ond Gladstone oedd y Meffis- toffeles a droes yr ymyriad yn rhyfel gwaedlyd. Y mae'n debyg mai yn yr un cyfarfod, rywbryd yn 1882, y penderfynodd Glad- stone fabwysiadu dulliau rhyfelgar mewn dwy wlad-yn yr Aifft, ac yn Iwerddon. Yn ysgogydd iddo, ymhlith eraill, yr oedd John Morley, carwr tanbaid y lleiafrifoedd gorthrymedig. Yn ddiweddarach, pan ddaeth y dydd y gwelodd Lloegr fod yn rhaid ymresymu â'r Aifft ar fater ei rhyddid, daeth Saglwl Said i Lundain, lle y bu mewn cyngor â Ramsay MacDonald, arweinydd y Blaid Lafur a phennaeth y Llywodraeth yn 1924. Cafodd yr Eifftiwr siom ei fywyd yn y cyfarfod hwn. Nid oedd MacDonald yn barod i fynd mymryn ymhellach na phrifweinidogion blaenorol. Ni fynnai sôn hyd yn oed am symud y fyddin estron o ddinasoedd yr Aifft. Bydd galw ar holl genedlaetholwyr y Gymdeithas Bry- deinig drwy'r byd i ddadlau neu i wthio eu hawl ger bron Lly- wodraeth Llundain a cher bron cynrychiolwyr y blaid Seisnig a fyddo mewn grym yno. I Gymry, y mae agosrwydd y pleidiau hyn yn awgrymu y gellid cynghreirio â hwy, yn enwedig pan honnant gydymdeimlad â delfrydau cenedlaethol. Y mae gwersi gorffennol yn dangos y dylid croesawu'r cydymdeimlad hwn, ond na ddylid byth ymddiried iddo. Timeo Danaos et dona ferentes. J. GWYN GRIFFITHS. CYMRU'R ANTERLIWDIAU Dramâu-gwerin Cymru yn y ddeunawfed ganrif oedd yr Anterliwdiau. Ni fwriedir ymdrin â'u nodweddion dramatig. Dywedir yn unig fod yn y rhan íwyaf o'r Anter- liwdiau ddau blot. Gellir eu galw y prif blot a'r isblot. Gwelir y ddau blot, er enghriafft, yn yr Anterliwd ar Y Brenin Llŷr"; yn y pri blot ymddengys y Brenin Llŷr a'i ferched a chymer- iadau eraill o'r ben gyfnod yn yr isblot y ffŵl, Plwc, y cybydd Heilin a'r llances, Hiran, a chymeriadau'r ddeunawfed ganrif ydynt. Yn y prif blot ceir hanes un o frenhinoedd Prydain yn