Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD Sbaen. Gallwn ddweud mai rhyfel rhwng dynion a pheiriannau a geir yn Sbaen heddiw. Dywedaf hynny wrth feddwl mor ychydig yw nifer y dynion sydd ar ochr y gwrthryfelwyr, ac mor ofnadwy yw'r arfau sydd ganddynt. Ar y llaw arall ceir miliynau o ddynion ar ochr y llywod: aeth, ond y trychineb yw bod eu harfau mor brin, a'r Pwyllgor Pontius Peilat-a gamelwir yn Bwyllgor Peidio Ymyrryd, yn gwahardd gwerthu arfau iddynt. Sawl gwaith ar ddechrau'r rhyfel, fe welid torf o ddynion heb arfau yn ymosod ar fagnel a'i chipio oddiar y gelyn. Cysur mawr yw meddwl y gall dynion wneud peiriannau, ond na all peiriannau byth wneud dynion. Am hynny, rhaid i ni gael ffydd i gredu mai'r dynion a enilla yn y diwedd. Oni chredwn i hynny, ni buasai gennyf ddim ffydd yn y ddynolryw bellach, nag yn Nuw ychwaith. Wrth i mi sgrifennu'r nodiadau hyn, daw newyddion calonnog iawn,-bod Teruel tan warchae, a bod pob math o ddryswch wedi dyfod i'r golwg ymhlith y gwrthryfelwyr,- y Requetes Sbaenig yn ffraeo a'r Eidalwyr, a'r Mwriaid yn gwrth- ryfela yn erbyn Franco. Fel rheol, bydd llawer o lythyrau o diriogaeth y gwrthryfelwyr yn dyfod trwy'm dwylo, ond ni welais un ohonynt ers wythnos neu ragor, am fod y gwrth-ryfelwyr wedi cau'r ffin rhyngddynt a Ffrainc. Credaf y bydd pethau mawr wedi digwydd cyn i'r llinellau hyn weled golau dydd. Efallai y gwna Hitler a Mussolini un ymdrech fawr eto i wrth- sefyll y llanw dychrynllyd sy'n codi yn eu herbyn. Os felly, fe droir y llanw yn ddiluw. Abysina, U.G.S.S., Ffrainc, Czechoslovakia, China. Ar wahan i Sbaen, y mae pob un o'r gwledydd uchod wedi dioddef oherwydd gwanc y Ffasistiaid a'r Imperialwyr Rhyn- gwladol, — "y rhai sydd yn hoff ganddynt ryfel," ac y mae pob un o'r anturiaethau hyn ymhell iawn o fod wedi llwyddo. Gwario arian a bywydau o hyd, heb fedru gwneud elw y mae Mussolini yn Abysinia. Yn U.G.S.S., fe geiswyd llogi bradwyr ymhlith swyddogion y fyddin. Cipiwyd wyth o'r cadfridogion Rwsiaidd a'u saethu ar ôl eu cael yn euog o uchel frad. Felly, wrth aberthu wyth, fe arbedwyd miliynau o fywydau, ac yn yr un modd fe allesid fod