Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OWEN ËDWARDS i. Yn ei Gofiant i Owen Morgan Edwards* dywed yr Athro W. J. Gruffydd "Atgof yw'r gallu gwyrthiol hwnnw a all droi'r dwr yn win, a all greu byd o sylwedd allan o annelwig ddeunydd breuddwydion." Petawn yn chwilio llên Cymru drwyddo-draw, mac'n debyg na ddeuwn o hyd i ddarnodiad a allai fynegi'n well fy mhrofiad personol fy hun wrth ddarllen y gyfrol hon. Nid oes odid i ddalen ynddi na ddeffry ynof ryw atgof bore oes am Owen Edwards, ac wrth eu dwyn i gof un ar ôl un, trydd bron y cwbl yn felys win i mi. Er ei fod yn Rhydychen pan gofiaf ef gyntaf, a'i orchestion yno yn ennyn edmygedd yr holl wlad, am ei ddyddiau yn Ysgol Tŷ-dan-domen a'r Coleg y carai ei gydnabod yn y Bala sôn fwyaf pan oeddwn i'n hogyn. Bu llawer bachgen yn yr Ysgol, ac aml i lencyn yn y Coleg, y gwyddai'r dref fwy amdanynt nag am "Owen Cae Rhys" yr adeg honno. Ni chyflawnodd ddim yno a'i gwnaeth yn destun siarad, fel rhai o'i gyd-efrydwyr, a ohadwai ei wyleidd-dra ef rhag gwthio ei hun i sylw neb. Cyfyng fu cylch ei adnabyddiaeth. Nid ar bob aelwyd y medrai deimlo'n garlrefol, ac nid â phawb y gallai deimlo'n rhydd a naturiol. Ond ar ba aelwyd bynnag y bu ef ei hun neu ei gyfeillion agosaf yn lletya yno yr oedd yn ei afiaith, holl nwyfiant a direidi ei natur yn mynnu eu ffordd, ei chwerthin a'i ffraethineb yn llond pob tý. Treuliais ugeiniau o oriau yn un o'r rhes tai gerllaw Eglwys y Bala lle bu Owen Edwards yn lletya dan gronglwyd law- en John Roberts y Saer. Nid oedd lawer o bwys pa sgwrs a gych- wynnid oddeutu'r tân yng nghegin y tv, byddai'n sicr o derfynu gyda sôn am y "tri bachgen" — Owen Edwards, Tom Ellis, a Dafydd Daniel. Diolchaf i'r Athro Gruffydd am roddi lle mor amlwg i'r aelwydydd y lletyai Owen Edwards a'i gyfeillion arnynt yn ystod eu dyddiau ysgol yn y Bala. Credodd John Roberts y Saer a John Jones y Nyddwr yn y "tri bachgen", a chawsant fyw i'w clywed ym mhen blynyddoedd wedi hynny yn ymffrostio yn y rhan a gymerth eu hen letywyr yn natblygiad eu gyrfa. Tra bu'r tri byw, ni pheidiasant â gohebu â'r gwerinwyr *Cofiant Owen Morgan Edwards. Cyfrol 1, 1858--1883, gan W. J. Gruffydd, Aberystwyth, ab Owen, 1937. Tdd. x, 256 5s.