Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lle yn cael myned i'r seti croesion) a Dafydd yn cadw i fyny urddas y lle trwy Amenu yn soniarus gyda'r hen bobl. Dyddiau ded- wydd oedd y rheiny. Os mai seiat yw y nefoedd, er mwyn i mi fod ar fy hapusaf rhaid iddi fod yn debyg i seiat Llanuwchllyn fel y mae fy nychymyg yn ei phaentio flynyddoedd yn ôl. Rhaid i f'ewyrth Plasdeon fod yno gyda'i lais mwyn, rhaid i f'ewyrth Penygeulan fod yno i grio a chanu, rhaid i chwithau fod yno i ganmawl, rhaid i Watkin Jones fod yno i ddweyd hanes hen bobl Llanuwchllyn, rhaid i Zachariah Jones fod Yllo-i orphwys, rhaid i Robert Roberts fod yno i ryfeddu at ysblander y lle fydd gennym i addoli, a chaiff edrych dros y canllawiau ar y stormydd yn rhuo, a phawb arall yn ei le-fe fydd yno le hyfryd." Wrth gychwyn ysgrifennu'r nodiadau gwasgarog hyn, arfaethwn sôn am lawer o bethau eraill a ddenodd fy sylw yn y Cofiant. Ond mae'n rhaid eu gadael hyd rhyw dro arall, os goddef y Golygwyr iddynt ymddangos. Haedda'r bennod ar Ysgol Ty-dan-domen, a'r cyfeillgarwch rhwng Owen Edwards a Thom Ellis ysgrif iddi ei hun ac nid oes yn unman ymdriniaeth fwy eofn a beirniadol ar fudiad addysg Cymru nag a geir gan yr Athro W. J. Gruffydd yn y Cofiant hwn. Gwelaf fod un adoly- gydd yn ceryddu'r cofiannydd yn bur llym am rai o'i sylwadau. Ond o'm rhan fy hun, diolchaf i'r Athro am ei onestrwydd yn dwyn ffeithiau i'r amlwg a rydd oleuni ar rai pethau ym mywyd cyhoeddus Owen Edwards na fedrai hyd yn oed ei edmygwyr pennaf eu deall yn iawn. -Dylasai'r ddyletswydd hon i goffadwr- iaeth gwrthrych y Cofiant fod wedi ei chyflawni ers llawer blwy- ddyn. Ond dyma hi o'r diwedd wedi ei gwneud gan un nad oes flewyn ar ei dafod, ac a ddywed y caswir mor groyw fel nad oes ddichon i neb ei gam-ddeall. Dyma un o Gofiannau mawr Gymru; a'i wrthrych am y tro cyntaf wedi ei osod yn ei Ie priodol yn hanes Cymru, a chyfiawnder i'w goffadwriaeth wedi cael ei ffordd. Nid yn aml y cyhoeddir yng nghorff yr un flwyddyn ddau waith llen- yddol mor bwysig gan yr un awdur â Hen Atgofion a Cofiant Owen Morgan Edwards, a rhwng y ddau rhydd yr Athro W. J. Gruffydd i ni hanes cyflawnach a chliriach a mwy awdurdodedig o'r mudiadau mawr a gynhyrfai Cymru ddeugain neu hanner can mlynedd yn ôl nag a geir yn unman arall. H. FRANCIS JONES.