Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i werin a chenedl. Enillodd ein cenedl nerth corff a meddwl pan ymroddodd i ennill tir newydd i gyfarfod â'i hanghenion caledion. Gwanychu a wna yn gorfforol a meddyliol pan gyll ei thir. Llei- hau y mae nifer pobl y tir y naill flwyddyn ar ôl y llall. Y mae poblogaeth rhai o'r plwyfi gwledig yn hen Gantref Meirionnydd wedi mynd i lawr i'r hanner. Y mae asbri'r bywyd gwledig yn gwanhau'r raddol ond yn sicr. A thywyllu y mae'r rhagolygon ar rai cymdogaethau yn enwedig ar ddwy adain i'r gantref yn y dwyrain lle y dechreuwyd a phlannu coedwigoedd. Gofid yw gweled gwerthu rhai o ben dreftadaethau Cymreig a fu'n magu rhuddin ein cenedl am ganrifoedd. Ar ochr Feirion i afon Dulas ym mhlwyf Talyllyn, gwerthwyd wyth o dyddynnod i'r Llywodraeth at blannu coed. Colled i fywyd gorau'r genedl yw gwerthu tyddynnod at blannu coed yn hytrach na magu cened- laethau o Gymry diwylliedig. Hoffter beirdd oedd yr hen dref- tadaethau hyn yn Nhalyllyn "Rhangwm a elwir Hengae Anwyl gynt yn ei Ie gaid Ac annwyl oedd i'r gweiniaid Ni châi was Ie oedd frasach, Na gwell i fyw na'i gell fach." Dywedir y bydd o Bantperthog i Aberangell yn un goedwig fawr yn fuan. Y mae eisiau gwylio'r mudiad sydd yn bwriadu troi hen dyddynnod at blannu coed. Y mae i blannu coed ei Ie a'i ddaioni, ond iddo fod dan ofal gwyr cyfarwydd adran amaeth y Cyngor Sir. Bu addysg yn arf anrhydeddus yng ngolwg goreugwyr yr ardaloedd ar hyd yr oesau. Addysg grefyddol a fu yn amlwg yn yr hen Gantref yn ei chyfnod cynnar fel eiddo pob gwlad arall. Rhestrid Mynachlog Cadfan yn y Tywyn yn ystod diwedd y burned a dechrau'r chweched ganrif gyda'r anrhydeddusaf yng Nghymru, a bu Mynachlog y Cymer yn dysgu crefydd, amaeth- yddiaeth a chelfyddyd ar hyd yr Oesoedd Canol. Daeth dwy o ysgolion gramadeg oes Cromwell i'r gymdogaeth sefydlwyd un yn Nolgellau a'r llall yn Llanegryn. Nid oedd a fynno'r Lly- wodraeth ag Ysgol Llanegryn, gwaddolwyd hi gan Hugh Owen o Dalybont. Nid ysgol i blant Llanegryn yn unig oedd, ond i blant Cwmwd Talybont. Bu'r Cwmwd fel uned yn hir cyn y'i dilewyd o ymwybod yr hen dadau. Rhoddodd y fro gefnogaeth frwd i ysgolion cylchynnol ac i ysgol Sul y Parch. Thomas Charles o'r Bala. Gwr a gynorthwyodd y mudiad i gael addysg i afael y werin oedd John Jones, Penyparc, Bryncrug. Cafodd ef addysg dda ei hun, a chynhaliai ysgol ar ei gyfrifoldeb ei hun ym Mhenyparc. Nid oes hanes diddorach ym myd addysg Cymru na gwaith Lewis Williams yn cychwyn cynnal ysgol ymhlith tlodjon Llan-