Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR CYMRO DYMA ni ar drothwy blwyddyn newydd unwaith eto. Bodd wyd swn clychau'r Nadolig gan ffrwydradau gynnau mawr Siapan a gwrth-ryfelwyr Sbaen. Beth ddaw gyda'r flwyddyn newydd y nefoedd a wyr, ond llawenhawn nad yw gweld i'r dyfo- dol yn un o gynheddfau'r natur ddynol. Y wyrth fwyaf yn y flwyddyn a aeth heibio oedd inni osgoi Rhyfel Mawr arall yn Ewrop, ond aberthu China a Sbaen oedd y pris a dalwyd am ein heddwch ni. Neu mewn geiriau eraill llwfrdra gwledydd cred. Buasai llwyddiant byddin y llywodraeth yn Sbaen yn sail gwedd- ol sicr i obeithion mwy golau am y flwyddyn newydd, ond ni allwn weled y llwyddiant hwn yn y golwg, ysywaeth. Tostur- iaf wrth y bobl hynny sy'n dal i gredu mai brwydr rhwng anffydd- iaeth a Christnogaeth yw'r frwydr yn Sbaen. Pe credwn hynny, pe credwn mai dynion fel De Llano (gwr afiach ei feddwl) a Franco ydyw gwir amddiffynwyr Cristnogaeth, yna buaswn yn barodi i ddweud mai gorau po gyntaf yr ysgubir hwy oddiar wyneb y ddaear. Nid ydym mor gib ddall ag honni bod yr ochr arall yn wyn a di-frycheulyd ond rhaid cofio un peth, sef mai cynnyrch adwaith yn erbyn math arbennig ar grefydd ydynt, adwaith digon iach ni gredwn, crefydd gyfalafol, crefydd y vested interests. Ac amddifíyn tiroedd a meddiannau oedd symbyliad y gwrthryfel ac nid amddiffyn crefydd. Yr un yn y bôn oedd gwendid y Piwritaniaid a "enillodd" yr Amerig a'r Catholigion a "gadwodd" Sbaen dros cynifer o ganrifoedd. Sylwer ar allies y gwrth ryfel- wyr. Mwsolini, ceidwad ffydd y Moslem, Hitler erlidiwr y Protestaniaid a'r Pabyddion uniongred yn yr Almaen, a Mwr- iaid paganaidd sy'n fodlon mwrdro am dâl. Na, nid oes gan Gristnogaeth fawr o ddim i wneud yn wyneb Sbaen, ond ymneull- tuo mewn lludw a sachliain. Y mis diwethaf bu rhaid imi, o ddiffyg gofod, adael heibio sôn am gynllun newydd yr Amgueddfa Genedlaethol i ennyn diddordeb y werin. Derbyniais Holwyddoreg diddorol iawn yn esbonio'r cynllun. Drwy adran Diwylliant a Diwydiant Gwerin, sydd yn ngofal Mr. Iorwerth Peate, y bwriedir gweithio ac fel y gwyr darllenwyr HEDDIW, amcan yr adran hon ydyw "arddan- gos" patrwm cyfan bywyd cymdeithas yng Nghymru o'r 16eg hyd y 19eg ganrif. Ymdrin yr Adran â'r defnyddiau amrywiol