Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cymorth gyda'u help parod. Heb y gwyr hyn, buasai cyhoeddi cylchgrawn fel HEDDIW yn amhosibl. Diolchwn hefyd am y llu o lythyrau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yn mynegu teimladau cynnes tuag at HEDDIW, a hefyd am ami i air o feirn- iadaeth a fu o help mawr inni. Croesawn unrhyw awgrymiadau gan ein darllenwyr ac os oes modd fe geisiwn wneud ein gorau glas i wneud yn ol dymuniad y mwyafrif. Oni ysgrifennir atom nid oes modd gwybod barn ein darllenwyr. Fel symbyliad fe rhoddaf wobr o hanner gini am y traethawd orau (dim mwy na phum cant o eiriau) ar "Beth a wnawn pe bawn yn Olygydd Heddiw." Anfoner yr ysgrifau i ofal y Golygyddion, Gwasg Heddiw, 9, Heathfield Street, Abertawe, erbyn y diwrnod diwethaf yn Ionawr. Yr hyn a geisiwn ydyw beirniadaeth adeiladol a golau, rhywbeth a fydd yn help inni wneud HEDDIW yn deilwng o unig fisolyn cenedlaethol Cymru. BWROCRATIAETH OBOB ffurf ar lywodraeth, y waethaf oll yw bwrocratiaeth Ynddi hi cyfunir elfennau erchyllaf oligarchiaeth, pluto- cratiaeth, swyddogaeth a phethau gwaeth. Gwaeth ydyw am fod pob gweithrediad yn gudd, ac ni wyr y werin pwy sy'n gyfrifol am eu gormesu, eu hysbeilio, a'u tagu. Mantais o leiaf yng ngwledydd yr unbenaethiaid yw gwybod pwy yw awdur drygioni; yn y wlad hon ni wyr neb namyn un peth sef bod gwasgu aruthrol o ryw gyfeiriad, ac oherwydd teithi crefyddol y bobl, bodlonir ar yr enw bwrocratiaeth. Yn ddios, dyma'r ffurf o lywodraeth a ddosrennir o Lun- dain heddiw, wedi'i noddi gan wasanaeth sifil ddrutaf Ewrop. Nid drwg o'i hanfod mo'r gwasanaeth sifil, pan gofir mai ei amcan yw gwasanaethu, ac nid awdurdodi. Ond yn y wlad hon, rhan ydyw o'r peiriant annynol, di-enaid, sy'n gweithio'n ddiwyd- dawel, tu ôl i lwyfan Senedd, ymrheoli'r gwifrau sy'n gyfrifol am symudiadau'r aelodau, megis doliau pren mewn siou. Clust nid oes gan fwrocratiaeth fodern i wrando cwynion gwerins yn erbyn gorthrwm y prawf moddion, yn erbyn anghyflo- gaeth,tlodi, dioddefaint, na chyfran ychwaith yn ymbil y gweddiau dros heddwch a chyfiawnder. Unig ystyr ei bodolaeth yw llwy- ddiant cynlluniau haearnaidd, ac esmwyth droad olwyn swyddo- gaeth sy'n gwasgu'r mêr o esgyrn pob gwrthwynebiad.