Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bwy y gellir gosod bys. Ond y mae yno'n sicr, yn pesgi ar ofn y werin, yn manteisio ar wendid, ac yn llyfu gwefusau ar ôl yr ysglyfaeth blasus. Y mae sisial ar gorneli strydoedd, ond nid mwy. Yn fuan fe dyr y storm i foddi'r bwrocratiaeth lleol. Gorau po gyntaf, modd y gallom gael unoliaeth i ymladd y perygl sydd oddi allan. Craig cadernid democratiaeth yw'r cyngor lleol, a dis- gwyliwn iddynt hwy gadw ac i ymestyn eu hetifeddiaeth. Da i rai ohonynt gofio geiriau y Bardd Cwsg. "Ewch yn ôl i'r porth cyfyng, ac ymolchwch yno'n ddwys yn Ffynnon Edifeiriwch, i edrych a gyfogwch chwi beth gwaed brenhinol a lyncasoch gynt; a dygwch beth o'r dwfr hwnnw i dymheru'r clai at ail uno y rhwyg acw ac yna croeso wrthych." Heddiw, bwrocratiaeth greulon sydd yn rheoli, yn gwasgu, yn lladd, yn bwyta yn gorchymyn, yn lladrata yn meddwi ar arglwyddiaeth. Nid yw democratiaeth ond polisi propaganda. Bwrocratiaeth sydd yn ben WYNNE SAMUEL. DRAMA A RADIO. Bu Gwyl Ddrama hynod lwyddiannus yn Llanelli y mis diweth af. Chwaraewyd tair Drama. Atgyfodwyd drama fawr yr Athro Gruffydd, "Beddau'r Proffwydi," a da y gwnaethpwyd. Wrth edrych yn ôl dros hanes y ddrama Gymraeg blin yw gorfod cyfaddef na chyflawnodd y mudiad yr addewid ardderchog a gafwyd yng ngweithiau y pioneers, W. J. Gruffydd, D. T. Davies, R. G. Berry (os gwrandawoch ar sgwrs yr awdur olaf a enwyd, ar y radio yn ddiweddar y mae gennych syniad da paham). Y mae gan y gwyr hyn lawer i'w ddysgu i'r gorau o ddramawyr ieu- ainc cyfoes. Am wn i na buasai wythnos o Ysgol Ddrama i astud- io'r dramau hyn o ddirfawr les iddynt. Da yw gweled fod mud- iad y ddrama mor fyw yn ardal Llanelli, ac y mae'r Gymdeithas Ddrama lewyrchus sydd yno yn haeddu canmoliaeth am y gwaith da a wneir ganddi. Hefyd, rhoddwyd tro arall ar ddrama enwog Kitchener Davies, "Cwm Glo." Edrychaf ymlaen am weld rhagor o waith y gwr ieuanc hwn, oherwydd prawf y ddrama hon fod ganddo reddf dramaydd, a gwroldeb y gwir artist. Gwnaeth y cwmni waith da ar y ddrama ar waethaf ambell nam pur bwysig ar y chwarae. Cafwyd perfformiad gwirioneddol dda o'r "Ferch