Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Siomedig iawn oedd y raglen ysgafn gan y Cwmni Cocos. Nid oedd yn ddoniol na chwaethus. Gresyn hyn, gan y gwelwn wrth y rhaglen fod gan yr awdur syniadau ond na thrafferthodd eu caboli cyn eu gadael o'i ddwylo. Unwaith eto talaf deyrnged i gyfres Twm Sion Catti gan Rhys Dafys Williams. Llwyddiant eithriadol fu ail berfformiad Buchedd Garmon, Saunders Lewis. Dyma batrwm o'r hyn ddylai drama farddonol fod, ac nid yw'n debyg y gwelir ei rhagori am flynyddoedd i ddyfod. A gaf fi bwyso ar Mr. Hopcyn Morris fynnu gweld y gwneir defnydd o da^ent diamheuol Mr. Lewis fel awdur-radio ? Dylid cael rhagor ganddo-a hefyd ychwaneg o fiwsig atyniadol Arwel Hughes-a chan na welodd Coleg Abertawe yn dda roddi ei Ie yn ôl iddo, dyma gyfle ardderchog i'r B.B.C. gyflawni go- beithion cenedl gyfan. Am y perfformiad ei hun, gellir nodi ychydig feirniadaeth, heb inni ymddangos yn ddibris o'r per- fformiad gwych. Cafwyd gormod o ysbeidiau di-ddigwyddiad- er anghraifft, rhwng adrodd y cythreuliaid a chanu'r morwyr. Hefyd gwan iawn oedd y protread o'r cythreuliaid, ond ni lwy- ddodd hyd yn oed eu heiddilwch ladd y cwbl o erwinder y farddon- iaeth berffaith-weddus a roddwyd iddynt. Y ddau gymeriad cryfaf oedd o Garmon a Phaulinus, a gweddai eu lleisiau i'r dim. Nid fel actor y mae inni feirniadu Emrys Wledig ond fel gwr yn llefaru o helaethrwydd ei galon-a chefais i fel un "thrill" theatrig fy mywyd. THEOMEMPHUS. ADOLYGIADAU *Welsh Short Stories. Faber and Faber, 1937. Tdd. 491, 7s.6d. ALL Art is Propaganda" medd Mr. Eric Gill: "is" sy lwer, nid "ought to be" — a barnu wrth yr adolygiadau a welais ar Y Ddau Lais, y mae angen pwysleisio hynny. Ystyr dywediad Mr. Gill yw bod pob darn o gelfyddydd, fyn ef na fyn ef, yn dadlau dros wir gredo ei greawdwr mae hyd yn oed gelfyddyd anonest yn dadlau dros agwedd feddwl anonest, hyd yn oed waith Oscar Wilde, a ddywedodd "All Art is absolutely useless", ac a soniai am "Art for Art's sake", yn ddadl dros y ddeuoliaeth a olygai hynny mewn bywyd. "Ystad bardd astudio byd" meddai Siôn