Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

un arall yn gelfydd ei chrefft a ffrit ei sylwedd, un arall eto'n wych mewn corff ac ysbryd. Ni ddichon un Cymro (ac yn ar- bennig y Cymro hwn sy'n ysgrifennu) geisio gymharu'r cyfieith- iadau o'r Gymraeg â'r storiâu Saesneg; am y Cymraeg gwreiddiol y bydd ef yn meddwl. Ond a chofio hynny, credaf nad rhaid ofni'r gymhariaeth-yn arbennig gan na chynhwyswyd storiâu gorau'r Gymraeg. Efallai mai yn y darlun cyfansawdd o Gymru a geir ynddo y mae gwerth pennaf y llyfr mewn nofel a stori yn unig y gellir tynnu darlun o'r fath, a dyna'r rheswm y dymunwn weld cyhoeddi llawer mwy o storiâu Cymraeg, hyd yn oed ar draul y safon lenyddol. Yn naturiol, rhydd y casgliad hwn fwy na'i chyfran o bwyslais ar Gymru Saesneg ond dyma ddarlun gwlad o galedi gwledig a phrydferthwch gwledig, gwlad o ramant hen hanes a rhamant ysbrydion ac o Wyll Celtaidd,gwlad o fynydd- ddoedd tawel, gwlad hefyd o gymoedd diwydiannol a damwein- au'r pwll, a gwlad sydd eto'n cadw rhywbeth yn ôl rhag y di- eithryn. Wedi gweld y darlun, barned pawb drosto'i hun âi darlun cywir yw; dyweded hefyd oni charai weld cyhoeddi i'r holl fyd gyfrol o'r storiâu Cymraeg gorau, yn ddarlun cyfan o Gymru Gymraeg. D.J. Modury Siopwr, comedi dair act, gan G. Prys Jones. Gwasg Gee, 2s. 6d. Ceir yn y ddrama hon wyth cymeriad, pum gwryw, tair benyw. Y genfigen rhwng Mrs. Jones gwraig siopwr yn Llan- gwynllwyn, a Mrs. Williams, gwraig y greengrocer dros y ffordd, yw ysbrydoliaeth y gomedi, a rhwng y ddwy, llwyddir i wneud dyn o Wiliam Jones. Mae Wiliam yn etifeddu tri chan punt, ac yn prynu motor- car dan ddylanwad ei wraig. Metha ddysgu gyrru'r car ond, a'r driving test ar bwys, cymerir Williams yn sâl (wedi ei wenwyno gan samon o siop Jones) a mentra Jones yrru wrtho'i hun i 'mofyn meddyg, llwydda wrth gwrs. Mae yntau'n magu ysbard- unau ac yn mynnu'i ffordd ei hunan mwyach. Gorffennir trwy wahodd Mr. Wiliams i aros i swper, a chael-samon. A hithau allan ar frys, a disgyn y llen tra fo Wiliams a'i wraig yn chwerthin eu calon. Mae digon o fynd ar y gomedi, a rhai darnau ohoni'n ddigon gwell,nag eraill. Pe câi hon ei hactio'n iawn, dylai greu digon o randibw mewn unrhyw gynulleidfa a dyna, mi gredaf, beth a'i gwna yn llwyddiant. J. EIRIAN DAVIES.