Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MORWYN A MAIR Mae'r lloer yn llawn a minnau'n wan, Ac angau'n dyfod yn y man. Fair Forwyn, oeddit tithau'n gref, A'r Arglwydd yn dy garu ? Cryfhâ fy ngwendid i yn nef Dy Fab yr Arglwydd Iesu. Mae'r llanc yn drist a minnau'n fwyn, Ac angau'n gwrando ar ein cwyn. 0 Fair, a oeddit tithau'n gas, A'r Arglwydd yn dy garu ? O dyro im anfeidrol ras Dy Fab yr Arglwydd Iesu. Mae'r byd yn bur a minnau'n wael, Ac ni all angau fod yn hael. O Fair, a oeddit tithau'n lân, A'r Arglwydd yn dy garu ? O llosg fi yn nhragwyddol dân Dy Fab yr Arglwydd Iesu. Mae'r serch yn hy a minnau'n fach, A'r einioes byth ar ganu'n iach. O Fair, a oeddit tithau'n fawr, A'r Arglwydd yn dy garu ? A ellit ti ddioddef awr Dy Fab yr Arglwydd Iesu ? Mae'r nos yn deg a minnau'n ffôl. Ni elwir heno byth yn ôl. O Fair, a oeddit tithau'n ddoeth, A'r Arglwydd yn dy garu ? Mor greulon ydyw purdeb noeth Dy Fab yr Arglwydd Iesu.