Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r cnawd yn hardd a minnau'n fyw. Bydd popeth byw a hardd yn wyw. Fair Forwyn, oeddit thithau'n farw, A'r Arglwydd yn dy garu ? Pa fywyd oedd ym mywyd garw Dy Fab yr Arglwydd Iesu ? 0 dyro im faddeuant Duw A'th Fab yr Arglwydd Iesu. "YR Ymosod ar y Blaid" yw pennawd ysgrif olygyddol y Ddraig Goch am fis Ebrill. Mae'r pennawd yn anffodus, oblegid nid at ymosod gan rai oddi allan ar y Blaid Genedlaethol yn gyffredinol y cyfeirir yn yr ysgrif, ond at feirniadaeth ar rai datganiadau am bolisi'r Blaid Genedlaethol. Yn gam neu'n gymwys, tybiodd y gwr sy'n sgrifennu 'yn y Faner dan yr enw Euyoswydd-sydd yntau'n aelod o'r Blaid Genedlaethol~nad oedd rhai pethau a ddywedwyd yn y Ddraig Goch yn ddatganiad cywir o egwyddorion y Blaid Genedlaethol; a chan iddo ddyfynnu rhai pethau o HEDDIW wrth feirniadu'r Ddraig Goch, dichon y dylem ddatgan ein barn am y feirniadaeth ar ei feirniadaeth ef. Ni chredwn fod y Blaid Genedlaethol nac yn anffaeledig nac yn ddi- ffaeleddau ond credwn y gall hi serch hynny wneud gwasanaeth anhepgor i Gymru, a gwasanaeth na all neb arall ei wneud a chan hynny, credwn mai gwell er lies y Blaid Genedlaethol ac er lies Cymru yw inni ddatgan ein barn, na thewi mewn parch i deimladau tybiedig neb. Ni chredwn y dichon dim daioni ddod o fod dynion sy'n credu yn egwyddorion y Blaid Genedlaethol, yn gwrthod cyfaddef y gall hi neu ei harweinwyr amlycaf wneud camgymeriad. Bydd y sawl sy'n parchu gwirionedd yn gwybod nad niweidio neb yw ein bwriad ac nid Ym yn malio, ac ni ddylem falio, am farn neb arall. Bu geiriau Euroswydd yn y Faner weithiau'n ddigon anffodus; W. T. DAVIES. GOLYGYDDOL