Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

am gymorth i gyflawni ei dyletswydd. Yn wir, a chofio'r modd y try llywodraeth Westminstr bob gwynt i felin yr ymerodraeth, dywedwn mai dyletswydd Cymru yw gwrthod ei chymorth i Loegr, a chyhoeddi na rydd hi gymorth i un wlad nes y caffo hi safle gwlad. Ond ni olyga hynny na bydd hi'n cydymdeimlo â gwledydd a chenhedloedd ereill sydd dan ormes. Cytunwn yn llwyr â geiriau Mr. Saunders Lewis "y mae'n briodol i Gymry ddeall nad yw tegwch tuag at frodorion Sina yn cyfrif am ddim yn y cyffro presennol Seisnig yn erbyn Siapan" ond carem ych- wanegu serch hynny fod imperialaeth Siapan mor gas gennym ag eiddo Lloegr, ac mai gyda Sina y mae'n holl gydymdeimlad. Trueni na buasai Mr. Lewis wedi ychwanegu hynny, oblegid credwn mai dyna oedd ei feddwl ef ond yn anffodus yr oedd perygl i rai gredu ei fod yn bodloni ar gondemnio imperialaeth Lloegr, a'i fod yn ddihidio am imperialaeth Siapan. Dylid cofio nad yn nhermau'r Ddraig Goch y mae'r mwyafrif o Gymry wedi arfer meddwl, a chan hynny na thâl fodloni ar ymosodiadau paradocsaidd ar ragrith Lloegr rhaid gofalu dweud y cyfan o'n meddwl. PAWB A'I FARN "Rhydd i bob dyn ei farn ac i bob barn ei llafar" ebe hen air. Barn, nid rhagfarn. Y gamp yw cadw barn heb ei lliwio gan ragfarn. Bod yn deg, yn eangfrydig; bod yn feirniadol, yn werthfawrogol, yn oddefgar yw'r grasusau sydd fel cerubiaid oddi amgylch gorsedd barn. I. "Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar." Yn awyrgylch y ddihareb hon y ganed ac y maged fi. Y mae'n waddol a anwylir gennyf. Mi wn yn dda am fìl a mwy o bethau sy'n cyfyngu arnaf. Mor wir yw geiriau Robert Browning­"So free We seem, so fettered fast we are", ond erys y peth yn reddf, yn draddodiad ac yn argyhoeddiad ynof i mi gael fy ngeni yn wr rhydd. "Genir dyn yn rhydd", meddai Rousseau, "ond y mae mewn cadwyni ym mhobman."