Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feiriad iawn, ond rhaid wrth ystum anhraethol mwy anturus. Y mae cyfrifoldeb arswydus ar ysgwyddau arweinwyr yr Enwadau. Fel y digwydd yn fynych y mae miloedd yr Eglwysi ar y blaen i'r arweinwyr. Daeth yr awr ac yn awr y mae-yr awr anochel i'r Ymneilltuwyr yn gyntaf dyfu dros ben eu gwahan- iaethau mân. Y mae ganddynt un gelyn mawr i'w wynebu yn ôl arwyddion yr amserau-anghrist, paganiaeth. Gallant ymladd ar wahân o blaid Dirwest, Rhyddid Crefyddol, ac yn y blaen, ond o flaen yr eglwysi yr awr hon cyfyd gallu mwy anghymod- lawn-Anghrist, Paganiaeth wedi ymgnawdoli mewn Cesariaeth dan wahanol enwau. Ar wahân i'n gilydd ni fyddwn yn neb; gyda'n gilydd byddwn yn allu anorchfygol. (Trwy ganiatâd y B.B.C.). DYFNALLT, MODRYB MARI Peth a bair imi deimlo fy mod yn mynd ymlaen mewn dyddiau yw cofio imi dreulio cryn amser yn fy machgendod yng nghwmni hen wraig a anwyd yn chwarter cyntaf y ganrif o'r blaen. Nid "gwraig" mohoni chwaith, yn ystyr fanylaf y gair, canys ni bu iddi ẁr erioed. Bu fyw i oedran teg, ac am y deugain mlynedd olaf o'i hoes yr oedd yn hollol ddall. Trigai wrthi ei hun mewn bwthyn diarffordd ac âi llawer diwrnod heibio heb i'r un cyniweirydd llwybr droi i mewn i'r bwthyn bach. Eto i gyd, yn rhyfedd iawn, pan droech i mewn ni chaech fod ei hir feudwy- aeth wedi amharu dim ar ei sirioldeb arferol. Mae ftynhonnell ei chysur wedi bod yn ddirgelwch i mi hyd y dydd hwn. Er y gallai ddal unigrwydd heb ddiflasu, eto byddai'n hoff o gwmni ac ymhyfrydai yn helyntion preswylwyr y fro. Yr oedd yn hoff anarferol ohonom ni'r plant, ac nid oedd dim yn well gan- ddi nag adrodd wrthym hen chwedlau am y dyddiau a fu. Ganesid hi ar fferm, a mynych y canai i ni mewn llais soniarus yr hen gerddi a ganai gynt pan fyddai'n annog yr ychen wrth aredig ar un 0 lechweddau Cwm Dulais. Ni chafodd ddiwrnod o ysgol erioed, a phrin oedd ei gwybodaeth, a phell o fod yn uniongred oedd ei daliadau seryddol. Pan ddywedem ni'r plant inni weld seren yn syrthio brysiai i'n sicrhau nad oedd perygl yn hynny-